Iolo Morganwg a'r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru 1740–1918: Disgrifiad Llawn

Ganwyd Edward Williams mewn cyfnod o newid chwyldroadol; yr oedd ei ymateb i’r digwyddiadau o’i gwmpas ynddo’i hun yn eithriadol.

Gan weithio gydol ei oes fel saer maen, daeth yn fardd talentog drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg ac yn hynafiaethydd brwd a chanddo wybodaeth fanwl o’r traddodiad llawysgrifol Cymraeg. Yn ŵr cymhleth, ac o argyhoeddiadau cryf, datblygodd ei gariad angerddol at ei hoff Forgannwg yn obsesiwn, a threuliodd lawer o’i egni yn adfywio a, phan oedd angen, yn ail-greu gorffennol canoloesol godidog ar gyfer ei sir enedigol yn ogystal ag ar gyfer Cymru gyfan. Yr oedd ei etifeddiaeth yn gymysgedd ysbrydoledig, a rhwystredig ar brydiau, o’r ffeithiol a’r dychmygol: cysylltir ei enw yn annatod â seremoni Gorsedd y Beirdd, sy’n rhan hanfodol o weithgareddau blynyddol yr Eisteddfod Genedlaethol.

Y mae papurau Iolo Morganwg yn drysorfa ar gyfer y rheini sy’n ymddiddori yn niwedd y ddeunawfed ganrif a degawdau cyntaf y bedwaredd ganrif ar bymtheg, a hynny nid o safbwynt astudiaethau Cymreig a Cheltaidd yn unig. Er mai Cymraeg oedd iaith y mwyafrif o’i ffugiadau enwog (cerddi Dafydd ap Gwilym, y Trioedd ac amryw o destunau hanesyddol a chyfreithiol ffug-ganoloesol), ysgrifennodd Iolo’n helaeth, ac ar amrywiaeth o bynciau, yn Saesneg. Ceir yn yr archif, er enghraifft, nodiadau manwl ar arferion amaethyddol a phensaernïaeth werinol ym Morgannwg, ar fugeilgerddi, daeareg, y fasnach gaethweision, system y carchardai, yr ‘Indiaid Cymreig’ yn America, garddio, yn ogystal, wrth gwrs, â’r ‘derwyddon’ a’r traddodiad barddol. Nod prosiect Iolo Morganwg oedd dwyn yr adnodd gwerthfawr hwn i sylw’r cyhoedd a cheisio ehangu mynediad iddo.

Bu tîm o ymchwilwyr llawn-amser, wedi eu hariannu ar y cyd gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC) a Phrifysgol Cymru, yn gweithio ar yr archif ers mis Hydref 2001, dan gyfarwyddyd yr Athro Geraint H. Jenkins. Ymunodd Mary-Ann Constantine â’r prosiect fel ei arweinydd yn 2002, a chymerodd Marion Löffler yr awenau am flwyddyn yn 2006–07 ac eto yn 2008. Bu’r canlynol yn aelodau o’r prosiect yn ystod y cyfnod hwn: Ffion M. Jones, David Ceri Jones, Cathryn A. Charnell-White, Andrew Davies, Marion Löffler a Gethin Rhys, gyda chymorth ar wahanol adegau gan Eluned Jones a Bethan Jenkins. Cafwyd cymorth golygyddol gan Glenys Howells a Marian Beech Hughes.

Ceir rhagarweiniad rhagorol i amrywiol ddiddordebau Iolo yn y cyntaf o brif gyhoeddiadau’r prosiect, sef y gyfrol gyfansawdd A Rattleskull Genius: The Many Faces of Iolo Morganwg (Cardiff, 2005), dan olygyddiaeth Geraint H. Jenkins. Ceir ynddi ddwy ar hugain o benodau gan arbenigwyr yn eu gwahanol feysydd ar bynciau megis barddoniaeth Iolo, ei wleidyddiaeth, ei ddiddordeb yn nhafodieithoedd Cymru a’i waith fel saer maen. Cyflwynir y cymeriadau – yn aelodau o’i deulu, cyfeillion a gelynion – a fu’n cefnogi (neu, ar brydiau, yn ceisio rhwystro) ei gynlluniau uchelgeisiol. Diolch i’r tair cyfrol swmpus o’i ohebiaeth a olygwyd gan Geraint H. Jenkins, Ffion Mair Jones a David Ceri Jones, gyda chymorth Andrew Davies, gellir bellach ddilyn ei berthynas (stormus, yn aml) â’r bobl hyn. Y mae conglfaen y prosiect, The Correspondence of Iolo Morganwg (3 cyf., Cardiff, 2007), yn taflu goleuni newydd ar rwydweithiau llenyddol y cyfnod, ar y cysylltiadau rhwng Cymru, Bryste a Llundain, ac ar fywyd diwylliannol bro enedigol Iolo. Rhydd y llythyrau ddarlun diddorol tu hwnt o’r modd yr aethpwyd ati i chwilota am lawysgrifau cynnar a cheir hanesion dramatig am ymdrechion Iolo i oroesi fel bardd yn Llundain yn y 1790au cynnar.

Yn ei chyfrol The Truth Against the World: Iolo Morganwg and Romantic Forgery (Cardiff, 2007) y mae Mary-Ann Constantine yn archwilio holl waith Iolo yng ngoleuni ffenomenon a ymledodd drwy Ewrop yn sgil cyhoeddi gweithiau Ossian gan James Macpherson, sef y proses o ‘greu’ gorffennol cenedlaethol, yn rhannol drwy dynnu ar ffynonellau dilys ac yn rhannol drwy roi rhwydd hynt i’r dychymyg. Trafodir ymateb Iolo i’r ddwy ddadl enwog ynghylch ffugio a fodolai yn ei ddydd, sef y dadleuon ynglŷn â Chatterton ac Ossian, ac olrheinir ei ddylanwad ar yr adfywiad Celtaidd yn Llydaw. Y mae ail-greu yn thema ganolog yng nghyfrol Cathryn A. Charnell-White, Bardic Circles: National, Regional and Personal Identity in Iolo Morganwg’s Bardic Vision (Cardiff, 2007), yn ogystal. Dengys sut y plethodd Iolo linynnau gorffennol llenyddol ei genedl ynghyd i ateb dibenion ei agenda gyfnewidiol ei hun. Ceir yn y gyfrol hefyd ddetholiad o ddogfennau anghyhoeddedig dadlennol a difyr, yn eu plith ddrafftiau o’r gwaith anorffenedig ‘History of the Bards’.

Datblygodd Iolo yn ffigwr chwedlonol yng Nghymru’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ei chyfrol The Literary and Historical Legacy of Iolo Morganwg 1826–1926 (Cardiff, 2007) y mae Marion Löffler yn olrhain y modd y trawsnewidiwyd ef yn nychymyg y genedl. Yn lle’r cymeriad radical, chwerw yn aml, a amlygir yn y llythyrau, edrychid arno bellach fel hen ŵr mwyn y byd llenyddol; yn wir, ymylai ar fod yn drysor cenedlaethol. Dangosir, drwy gyfrwng dadleuon mewn cyfnodolion a gweithgareddau cymdeithasau ffyniannus ac eisteddfodau, sut y daeth syniadau Iolo yn rhan o gyfansoddiad Cymru Oes Victoria. Trafodir etifeddiaeth Iolo gan Gethin Rhys yn ogystal, yn ei bapur ymchwil 'A Wayward Cymric Genius’: Celebrating the Centenary of the Death of Iolo Morganwg' (Aberystwyth, 2007).

Lansiwyd gwefan Iolo Morganwg yng nghynhadledd ‘Y Bardd a’r Derwydd: Iolo Morganwg’ (30 Mehefin 2007). Y mae cyfrolau ac erthyglau eraill yn ymdrin â radicaliaeth wleidyddol Iolo ac ymylnodau ei ohebiaeth ar y gweill, yn ogystal â golygiad o’i emynau Undodaidd. 

Adnoddau ychwanegol

 
Crëwyd Gwefan Iolo Morganwg gyda chymorth grant atodol oddi wrth Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC). Ymwelwch â hi ar http://www.iolomorganwg.wales.ac.uk/  

Cyhoeddiadau’r Ganolfan a Gwasg Prifysgol Cymru ar Iolo Morganwg.

Am ragor o erthyglau yn ymwneud â Iolo, gweler proffil aelodau unigol y prosiect: