Prosiectau Gorffenedig

  • Beirdd y Tywysogion  
    Prosiect cyntaf y Ganolfan oedd cynllun uchelgeisiol i olygu holl farddoniaeth Beirdd y Tywysogion a ganai rhwng tua 1100 ac 1282/3 pan fu farw tywysog annibynnol olaf Cymru...
  • Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg  
    Cwblhawyd yn 2001 ail brif brosiect ymchwil y Ganolfan, sef astudiaeth gymdeithasol o hanes yr iaith Gymraeg yn y cyfnod rhwng Deddf Uno 1536 a’r presennol. Yn y prosiect, dangoswyd sut y disodlwyd y Gymraeg i raddau pell iawn yn y cyfnod modern gan yr iaith Saesneg...
  • Beirdd yr Uchelwyr   
    Y prosiect hwn oedd trydydd prosiect y Ganolfan, a’i nod oedd adeiladu ar lwyddiant y prosiect cyntaf |  a golygu barddoniaeth Gymraeg a ganwyd rhwng cwymp tywysog annibynnol olaf Cymru ym 1282/3 hyd at farwolaeth Tudur Aled ym 1526...
  • Diwylliant Gweledol Cymru
    Sefydlwyd Prosiect Diwylliant Gweledol Cymru yn y Ganolfan ym 1994, gyda’r bwriad o ymchwilio, ysgrifennu a chyhoeddi mewn tair cyfrol hanes diwylliant gweledol y genedl o’r cyfnod Cristnogol Celtaidd hyd at ganol yr ugeinfed ganrif...  
  • Yr Ieithoedd Celtaidd a Hunaniaeth Ddiwylliannol
    Er 1998 bu tîm o ymchwilwyr rhyngwladol llawn-amser dan arweiniad yr Athro John T. Koch yn ymdrechu i ddatgelu’n llawn y cysylltiadau rhwng stori’r ieithoedd Celtaidd a hanes diwylliannol Ewrop, gan olrhain tystiolaeth yr ieithoedd llafar Celtaidd a diwylliant eu siaradwyr o Oes yr Haearn gyn-Rufeinig hyd heddiw... 
  • Iolo Morganwg a'r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru 1740–1918
    Yn ystod y pum mlynedd diwethaf bu tîm o ymchwilwyr llawn-amser yn gweithio ar archif gyfoethog, ond gwbl anhrefnus, Edward Williams (Iolo Morganwg, 1747–1826) yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ef, yn ddiamau, oedd un o’r bobl bwysicaf y tu cefn i’r adfywiad diwylliannol a arweiniodd at greu’r Gymru fodern...
  • Barddoniaeth Guto'r Glyn                                                                                                  Pan holodd Tomas ap Dafydd, Abad Dinas Basing, y pencerdd Tudur Aled pwy oedd y gorau o ran canu ‘cywydd mab’ (sef canu mawl i uchelwyr), ei ateb cadarn oedd Guto’r Glyn, ac ar hyd y canrifoedd hyd heddiw y mae beirniaid wedi bod yn unfryd eu barn ynglŷn ag athrylith farddol Guto’r Glyn . . . Cyhoeddir golygiad ar-lein o farddoniaeth Guto’r Glyn erbyn 2012, gyda nodiadau cyflawn a fydd yn galluogi’r darllenydd i lwyr werthfawrogi’r cerddi . . .
  • Prydain Hynafol a Pharthau Môr Iwerydd                                                                         Y mae’r ymchwil gychwynnol ar gyfer y prosiect hwn yn cydnabod y posibilrwydd o newid pwyslais sylfaenol ym maes astudiaethau Celtaidd.Yn ddiweddar, cynigiwyd dadleuon (sy’n seiliedig ar archaeoleg a geneteg) o blaid olrhain y gwreiddiau Celtaidd i barthau Môr Iwerydd yn Oes yr Efydd yn hytrach nag i ddiwylliannau archaeolegol Hallstatt a La Tène yn nhiriogaethau canolbarth Ewrop yn Oes yr Haearn . . . 
  • Cymru a'r Chwyldro Ffrengig                                                                                            Y Chwyldro Ffrengig ym 1789, o bosibl, oedd digwyddiad diffiniol y cyfnod Rhamantaidd yn Ewrop . . . Sut y daeth trigolion trefi megis Caerfyrddin, Bangor neu Aberdaugleddau i wybod am y digwyddiadau yn Ewrop ac am yr adwaith a gafwyd iddynt ym Mhrydain? Ym mha fodd yr oedd yr ymatebion yng Nghymru yn wahanol i’r rhai a gafwyd yn yr Alban, Iwerddon a Llundain? Nod ein prosiect newydd yw archwilio’r pynciau hyn mewn cyfres o destunau golygedig . . . 
  • Gwydr Lliw yng Nghymru                                                                                                    Ceir nifer sylweddol o ffenestri lliw drwy Gymru benbaladr. Mae rhai i’w cael yn y mwyafrif o ardaloedd, mewn eglwysi gan amlaf ond mewn rhai capeli yn ogystal . . .  Gan adeiladu ar brosiect ymchwil yr AHRC ‘ Delweddu’r Beibl yng Nghymru’, a weithredwyd ar y cyd â Phrifysgol Cymru Llanbedr Pont Steffan, mae cronfa ddata ar lein o wydr lliw yng Nghymru yn cael ei pharatoi . . . 
  • Eira Ddoe: cofio tywydd eithafol

    Mi fydd y prosiect hwn, sydd wedi’i ariannu gan yr AHRC, yn ymchwilio i sut y gellir datgelu ac adrodd profiadau’r gorffennol, rhai hanesyddol a mwy diweddar, fel ffyrdd o ddeall a delio â ffenomenau sy’n gynyddol yn cael eu hystyried yn arwyddion o newid hinsawdd. Mi fydd yn archwilio’r ffyrdd y mae digwyddiadau tywydd eithafol yn cael eu cofio a’u mytholegeiddio gan y Cymry, er mwyn dehongli beth ellir ei ddysgu – yn rhybuddion a chyfleo