Prydain Hynafol a Pharthau Môr Iwerydd

PRYDAIN HYNAFOL A PHARTHAU MôR IWERYDD (IWERDDON, LLYDAW A'R PENRHYN IBERAIDD)

Y mae’r ymchwil gychwynnol ar gyfer y prosiect hwn yn cydnabod y posibilrwydd o newid pwyslais sylfaenol ym maes astudiaethau Celtaidd.Yn ddiweddar, cynigiwyd dadleuon (sy’n seiliedig ar archaeoleg a geneteg) o blaid olrhain y gwreiddiau Celtaidd i barthau Môr Iwerydd yn Oes yr Efydd yn hytrach nag i ddiwylliannau archaeolegol Hallstatt a La Tène yn nhiriogaethau canolbarth Ewrop yn Oes yr Haearn. Y mae angen datblygu ymhellach y ddamcaniaeth hon fod Celtigrwydd wedi lledaenu o’r Gorllewin, a’i phrofi’n fanwl o safbwynt ieithyddiaeth hanesyddol Geltaidd ac Indo-Ewropeaidd. Ymddengys ar hyn o bryd fod casgliadau cynnar ymchwil ddiweddar yr Athro John T. Koch ar iaith Tartesos yn Oes Gynnar yr Haearn yn ne Portiwgal a de-orllewin Sbaen yn cadarnhau’r ddamcaniaeth. Y mae’r dystiolaeth ieithyddol Hispano-Celtaidd – oherwydd ei bod mor helaeth, amrywiol a hynafol, a chan ei bod mor bell o Hallstatt a La Tène yn ddaearyddol a diwylliannol – yn gorwedd yn esmwythach gyda’r ddamcaniaeth o blaid olrhain y gwreiddiau Celtaidd i barthau Môr Iwerydd yn Oes yr Efydd na chyda’r patrwm sefydledig yng nghanolbarth Ewrop. Nid yw ysgolheigion Celtaidd, yn enwedig yn y byd Saesneg ei iaith, wedi llwyr fynd i’r afael â’r deunydd hwn a’i oblygiadau eto. Felly, bydd yn ofynnol i’r prosiect gasglu, diweddaru ac ailddidoli tystiolaeth ieithyddol o’r Oesoedd Efydd a Haearn er mwyn pwyso a mesur y ddadl o blaid datblygiad is-deulu Celtaidd o Indo-Ewropeg yn y gorllewin.

Dan arweiniad yr Athro John T. Koch y mae tîm ymchwil y prosiect yn meddu ar rychwant eang o ddiddordebau a chryfderau amlddisgyblaethol. Yr oedd yr Athro Syr Barry Cunliffe yn Gyfarwyddwr Sefydliad Archaeoleg Prifysgol Rhydychen o 1972 tan ei ymddeoliad yn 2008, ac y mae ganddo lu o gyhoeddiadau yn trafod y cyfnodau cynhanesyddol hwyrach a Rhufeinig ym Mhrydain, Llydaw a’r Penrhyn Iberaidd, yn ogystal ag archaeoleg Ewrop yn gyffredinol. Yr Ieithoedd Indo-Ewropeg yw arbenigedd Dr Dagmar S. Wodtko, yn enwedig yr ieithoedd Celtaidd cynnar ac ieithoedd cyn-Rufeinig Sbaen a Phortiwgal, ac y mae wedi cyhoeddi’n helaeth ar Geltibereg, Hen Wyddeleg a Phroto-Indo-Ewropeg. Y mae Dr Catriona Gibson yn arbenigwraig ar Oes yr Efydd yng ngorllewin y Penrhyn Iberaidd a chanddi gefndir o archaeoleg maes ym Mhrydain, Portiwgal ac Anatolia. Yn gyn-gymrawd ymchwil yn y Ganolfan, y mae Raimund Karl bellach yn Athro mewn Archaeoleg a Threftadaeth ym Mhrifysgol Bangor. Ymhlith ei ddiddordebau ymchwil y mae Oes yr Haearn yng Nghymru a chanolbarth Ewrop a threfn cymdeithas y Celtiaid cynnar.

Y mae’r Athro Koch yn gweithio yn y meysydd canlynol: iaith Tartesos, Brythoneg y cyfnod hynafol a’r Oesoedd Canol Cynnar, a gwreiddiau’r iaith Wyddeleg a’i thraddodiad llenyddol. Bydd cyfraniad yr Athro Syr Barry Cunliffe, cyd-archwiliwr y prosiect, yn ymwneud ag Oes yr Efydd ym Mharthau Môr Iwerydd, a’r Athro Raimund Karl yn canolbwyntio ar Ranbarth Môr Iwerddon yn y cyfnod o Oes yr Haearn i’r Oesoedd Canol Cynnar. Bydd cyhoeddiadau’r prosiect hefyd yn cynnwys cyfraniadau gan arbenigwyr allanol ym meysydd Ieithyddiaeth, Archaeoleg a Geneteg. Y cyntaf o’r rhain fydd cyfrol yn cynnwys y papurau a draddodwyd yn y fforwm ‘Celticization from the West’. Fe’i golygir ar y cyd gan John T. Koch a Barry Cunliffe, a’i chyhoeddi yn 2010, gyda chymorth yr Academi Brydeinig.