Cyhoeddiadau
Cyfres : Iolo Morganwg a'r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru 1740-1918||
Detholiad o Emynau Iolo Morganwg
Awdur/
Golygydd
|
Cathryn Charnell-White
|
|
Cyhoeddwyd
|
2009
|
|
ISBN
|
978-0-947531-93-5
|
|
Cyhoeddwr
|
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
|
|
Pris
|
£14.00
|
|
Maint
|
228 x 152 mm
|
|
Format
|
Clawr papur/Paperback, xvi+277
|
Ceir yn y gyfrol hon 240 o emynau golygedig Edward Williams (Iolo Morganwg; 1747–1826) ynghyd â geirfa a rhagymadrodd. Dosberthir yr emynau yn ôl y themâu canlynol: y Duwdod, Mawl i Dduw, Iesu Grist, yr Eglwys Undodaidd, y Bywyd Duwiol, Addoliad Undodaidd, Diwethafiaeth, a Gorsedd Beirdd Ynys Prydain. Y mae'r rhagymadrodd yn gosod yr emynau yn eu cyd-destun hanesyddol a generig ac yn dangos y modd y maent yn taflu goleuni ar ideoleg y gymdeithas Undodaidd gynnar, yn ogystal ag ar radicaliaeth wleidyddol a chrefyddol Iolo Morganwg ac ar ei bersonoliaeth amlochrog ef ei hun.