Cyhoeddiadau
Cyfres: Yr Ieithoedd Celtaidd a Hunaniaeth Ddiwylliannol|
Celtic Culture: A Historical Encyclopedia - 5 Volumes
|
Awdur/
Golygydd
|
John T. Koch
|
|
Cyhoeddwyd
|
2006
|
|
ISBN
|
9781851094400
|
|
Cyhoeddwr
|
ABC-CLIO
|
|
Pris
|
£354.00
|
|
Maint
|
285 x 220 mm, 5 cyfrol/volumes
|
|
Fformat
|
Clawr caled/Hardback, 1538tt./pp., 367 o ddarluniau/illustrations
|
|
Bwriadwyd y Gwyddoniadur hwn, sy’n ffrwyth prosiect ymchwil pum mlynedd yn y Ganolfan, ar gyfer pawb sy’n ymddiddori ym maes astudiaethau Celtaidd yn ogystal â’r rhai sydd â diddordeb mewn meysydd cysylltiedig ac atodol, gan gynnwys y gwledydd Celtaidd unigol, eu hieithoedd a’u llenyddiaethau, eu harchaeoleg a’u hanes, eu chwedloniaeth a’u mytholeg. O ran ei gwmpas cronolegol, y mae’r Gwyddoniadur yn ymdrin â phynciau sy’n ymestyn o gyfnodau Hallstatt a La Tène yng nghyfnod cyn-Rufeinig diweddar Oes yr Haearn hyd ddechrau’r 21ain ganrif. Yn ddaearyddol, yn ogystal â chynnwys gwareiddiad Celtaidd Iwerddon, Prydain, a Llydaw (Armorica) o gyfnod yr henfyd hyd y presennol, cynhwysir hefyd Geltiaid Gâl, Iberia, a chanolbarth a dwyrain Ewrop, yn ogystal â Galatiaid gwlad Twrci heddiw, a dilynir y Celtiaid i gyfandiroedd America ac Awstralia. I’r rheini sy’n ymddiddori’n bennaf yng Nghymru, ei hiaith a’i llenyddiaeth, ymdrinnir â’r meysydd hynny’n fanwl o fewn eu cyd-destun ehangach.
-
5 cyfrol
-
1,500,000 o eiriau
-
2,128 o dudalennau + lviii (fformat: colofn ddwbl, 8-1/2 x 11 modfedd)
-
1,569 o erthyglau, yn amrywio o ran eu hyd o 100 i dros 10,000 o eiriau, sy’n ymdrin yn fanwl â maes astudiaethau Celtaidd ac wedi eu cydgysylltu drwy gyfrwng croesgyfeiriadau ym mhob erthygl
-
llyfryddiaeth yn cynnwys 10,000 o eitemau yng Nghyfrol 5
-
367 o ddarluniau
-
59 o fapiau
-
338 o gyfranwyr sy’n arbenigwyr ym maes astudiaethau Celtaidd ledled y byd
-
Ar gael mewn print ac fel e-lyfr
Gellir archebu'r cyhoeddiad hwn ar-lein o: gwales.com|