Cyhoeddiadau
Cyfres : Yr Ieithoedd Celtaidd a Hunaniaeth Ddiwylliannol|
An Atlas for Celtic Studies: Archaeology and Names in Ancient Europe and Early Medieval Britain and Brittany
|
|
|
Awdur/Golygydd
|
John T. Koch
|
|
Cyhoeddwyd
|
2007
|
|
ISBN
|
978-1-84217-309-1
|
|
Cyhoeddwr
|
Oxbow Books & Celtic Studies Publications
|
|
Pris
|
£50
|
|
Maint
|
342 x 242 mm
|
|
Fformat
|
Clawr caled/Hardback, 224tt./pp., 64tt./pp. mapiau lliw llawn/full colour maps
|
Y mae
An Atlas for Celtic Studies yn gyfeirlyfr unigryw a chynhwysfawr sy’n cyflwyno llawer iawn o wybodaeth ynghylch y Celtiaid yn Ewrop ar ffurf mapiau manwl. Ceir yn yr Atlas filoedd o enwau lleoedd ac enwau grwpiau Celtaidd, yn ogystal ag arysgrifau Celtaidd a mathau eraill o dystiolaeth ieithyddol fapiadwy. Nod yr Atlas yw cyflwyno darlun eang ond manwl sy’n dangos y berthynas ddaearyddol rhwng y dystiolaeth ieithyddol a’r dystiolaeth ddiwylliannol anieithyddol fel bod darllenwyr yn gallu dilyn eu trywydd eu hunain o ran ymchwilio a dehongli. Y mae’r Atlas yn cynnwys 64 tudalen o fapiau lliw ynghyd â thestun esboniadol, trafodaeth ddamcaniaethol, llyfryddiaeth a mynegai. Y mae hwn yn adnodd gwerthfawr ar gyfer unrhyw un sy’n astudio’r Celtiaid.
Gellir archebu'r cyhoeddiad hwn ar-lein o: gwales.com|