Cyhoeddiadau
Cyfres : Diwylliant Gweledol Cymru : Y Brif Gyfres|
Diwylliant Gweledol Cymru: Y Gymru Ddiwydiannol
Awdur/
Golygydd
|
Peter Lord
|
|
Cyhoeddwyd
|
1998
|
|
ISBN
|
0-7083-1497-X
|
|
Cyhoeddwr
|
Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press
|
|
Pris
|
£25.00
|
|
Maint
|
240 x 290mm
|
|
Fformat
|
Clawr caled/Hardback, 272 tt./pp., darluniau lliw llawn/full colour illustrations
|
Y mae’r gyfrol gyntaf hon yng Nghyfres Diwylliant Gweledol Cymru yn disgrifio nid yn unig ddelweddau o safleoedd diwydiannol a gweithwyr yng Nghymru o ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg ymlaen, ond hefyd y nawdd a gynigid gan y rhai a drigai yn y cymunedau diwydiannol. Y mae’n cynnwys y penodau canlynol:
-
Datblygiad diwydiant fel pwnc mewn celfyddyd: delweddau o safleoedd diwydiannol a phobl wrth eu gwaith hyd at ddechrau oes Victoria.
-
Diwylliant gweledol y gymuned ddiwydiannol: nawdd diwydianwyr a phobl gyffredin yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif.
-
Delweddu ing cymdeithasol: cydwybod cymdeithasol gwneuthurwyr delweddau yn sgil pwysau’r byd diwydiannol.
-
Artistiaid Cymru a’r gymdeithas ddiwydiannol: delweddau yn perthyn i hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif a wnaed gan artistiaid proffesiynol yn deillio o’r cymunedau diwydiannol.
-
Democrateiddio celfyddyd: datblygiad y mudiad treflannu ac, ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ymddangosiad Cyngor y Celfyddydau a’i athroniaeth o ‘gelfyddyd i bawb’.
Y mae fersiwn Saesneg| o’r gyfrol hon ar gael yn ogystal.
Gellir archebu'r cyhoeddiad hwn ar-lein o
gwales.com|