Cyhoeddiadau
Cyfres : Diwylliant Gweledol Cymru : Y Brif Gyfres|
The Visual Culture of Wales: Industrial Society
Awdur/
Golygydd
|
Peter Lord
|
|
Cyhoeddwyd
|
1998
|
|
ISBN
|
0708314961
|
|
Cyhoeddwr
|
Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press
|
|
Pris
|
£30.00
|
|
Maint
|
240 x 290mm
|
|
Fformat
|
Clawr caled/Hardback, 272tt./pp., 424 llun lliw/colour illustrations
|
D.S. Y mae’r teitl hwn allan o stoc ar hyn o bryd. Fe’i hadargreffir cyn bo hir. Y mae’r fersiwn Cymraeg wedi ei adargraffu eisoes, ac y mae digon o gopïau ohono ar gael. Y mae’r llyfr cyfan (ynghyd â llawer o ddeunydd ychwanegol) hefyd ar gael ar CD-ROM.|
Y mae’r gyfrol gyntaf hon yng Nghyfres Diwylliant Gweledol Cymru yn disgrifio nid yn unig ddelweddau o safleoedd diwydiannol a gweithwyr yng Nghymru o ddiwedd yr ail ganrif ar bymtheg ymlaen, ond hefyd y nawdd a gynigid gan y rhai a drigai yn y cymunedau diwydiannol. Y mae’n cynnwys y penodau canlynol:
-
Datblygiad diwydiant fel pwnc mewn celfyddyd: delweddau o safleoedd diwydiannol a phobl wrth eu gwaith hyd at ddechrau oes Victoria.
-
Diwylliant gweledol y gymuned ddiwydiannol: nawdd diwydianwyr a phobl gyffredin yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg a dechrau’r ugeinfed ganrif.
-
Delweddu ing cymdeithasol: cydwybod cymdeithasol gwneuthurwyr delweddau yn sgil pwysau’r byd diwydiannol.
-
Artistiaid Cymru a’r gymdeithas ddiwydiannol: delweddau yn perthyn i hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif a wnaed gan artistiaid proffesiynol yn deillio o’r cymunedau diwydiannol.
-
Democrateiddio celfyddyd: datblygiad y mudiad treflannu ac, ar ôl yr Ail Ryfel Byd, ymddangosiad Cyngor y Celfyddydau a’i athroniaeth o ‘gelfyddyd i bawb’.
Y mae fersiwn Cymraeg| o’r gyfrol hon ar gael yn ogystal.