Cyhoeddiadau
Cyfres : Diwylliant Gweledol Cymru : Y Brif Gyfres|
The Visual Culture of Wales: Imaging the Nation
Awdur/
Golygydd
|
Peter Lord
|
|
Cyhoeddwyd
|
2000
|
|
ISBN
|
0-7083-1587-9
|
|
Cyhoeddwr
|
Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press
|
|
Pris
|
£37.50
|
|
Maint
|
240 x 290mm
|
|
Fformat
|
Clawr caled/Hardback, 416tt./pp., 700 darlun/ illustrations
|
D.S. Y mae’r teitl hwn allan o stoc ar hyn o bryd. Fe’i hadargreffir cyn bo hir. Y mae’r llyfr cyfan (ynghyd â llawer o ddeunydd ychwanegol) hefyd ar gael ar CD-ROM.|
Y mae’r ail gyfrol hon yn y gyfres arloesol a chlodfawr ar ddiwylliant gweledol Cymru yn ymdrin â’r modd y delweddwyd tir a phobl Cymru o gyfnod y Tuduriaid hyd y 1960au.
Trafodir y portreadau o uchelwyr y cyfnod Tuduraidd, tirluniau’r ddeunawfed ganrif, darluniau gan arlunwyr gwlad, a’r mudiad cenedlaethol ym myd celf o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg ymlaen. Ymdrinnir â datblygiad delweddau a llunio delweddau o fewn cyd-destun ehangach y newidiadau cymdeithasol, economaidd, gwleidyddol a sefydliadol a fu yng Nghymru.
Bydd y gyfrol hynod ddeniadol hon, sy’n cynnwys dros 700 o ddelweddau, y mwyafrif mewn lliw a llawer ohonynt yn cael eu cyhoeddi am y tro cyntaf, yn apelio at bawb sy’n ymddiddori yn hanes Cymru a’i diwylliant gweledol.
Y mae fersiwn Cymraeg| o’r gyfrol ar gael yn ogystal.