Cyhoeddiadau
Cyfres : Beirdd yr Uchelwyr|
33: Gwaith Gruffudd ap Maredudd: III – Canu Amrywiol
Awdur/
Golygydd
|
Ann Parry Owen
|
|
Cyhoeddwyd
|
2006
|
|
ISBN
|
0947531130
|
|
Cyhoeddwr
|
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
|
|
Pris
|
£10.00
|
|
Maint
|
234 x 156mm
|
|
Fformat
|
Clawr papur/Paperback, xix+283
|
Dyma’r olaf o dair cyfrol o waith Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd, y Gogynfardd diweddar o Fôn a ganai yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar ddeg. Cynhwysir yma gerddi amrywiol iawn sy’n adlewyrchu’r rhychwant eang o bynciau y byddai Gogynfardd fel Gruffudd yn canu arnynt. Ceir awdl hynod genedlaetholgar i Owain Lawgoch, disgynnydd uniongyrchol o linach frenhinol Gwynedd, yn ei annog i ddychwelyd o Ffrainc ac i ailfeddiannu Cymru. Y mae’r gerdd hon yn gwrthgyferbynnu’n drawiadol â’r farwnad a ganodd yn ddiweddarach i Syr Hywel y Fwyall, cyn-gwnstabl castell Cricieth, a gafodd ei anrhydeddu am ei wasanaeth i Frenin Lloegr ym mrwydr Poitiers. Ceir yma dair cerdd i ferched: dwy gyfres o englynion serch i ferched uchelwrol o Fôn, a’r drydedd yn awdl farwnad gref i Wenhwyfar o Bentraeth, a ddisgrifiwyd gan sawl beirniad fel un o gerddi mwyaf y bedwaredd ganrif ar ddeg. Y mae’r pedair cerdd ddychan a gadwyd dan ei enw yn gerddi creulon ac ynddynt ddisgrifiadau erchyll o haint corfforol, o ferch lac iawn ei moesau, ac o ystum corff lleidr yn crogi ar grocbren. Ar ddiwedd y gyfrol ceir geirfa gyflawn i holl waith Gruffudd.
Gellir archebu'r cyhoeddiad hwn ar-lein o: gwales.com|