Cyhoeddiadau
Cyfres : Beirdd yr Uchelwyr|
29: Gwaith Gruffudd ap Maredudd: II – Cerddi Crefyddol
Awdur/
Golygydd
|
Barry J. Lewis
|
|
Cyhoeddwyd
|
2005
|
|
ISBN
|
0 947531 572
|
|
Cyhoeddwr
|
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
|
|
Pris
|
£10.00
|
|
Maint
|
234 x 156mm
|
|
Fformat
|
Clawr papur/Paperback, xix+229
|
Dyma’r ail gyfrol o waith Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd, y Gogynfardd diweddar o Fôn a flodeuai yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar ddeg, ac ynddi golygir ei gerddi crefyddol i gyd. Y mae i Ruffudd le pwysig iawn yn hanes canu crefyddol yn y Gymraeg, nid yn unig oherwydd swmp y deunydd dan ei enw (golygir dros fil o linellau yn y gyfrol hon) ond hefyd oherwydd amrywiaeth ac amlochredd ei destunau. Ceir yma gerddi penydiol dwys ochr yn ochr â molawdau llawen i Dduw; awdlau i’r Forwyn Fair; englynion am y tri gŵr doeth a’r pedwar efengylydd; a gweddi rymus ar i Dduw achub Gwynedd rhag ymosodiad y Pla Du. Y mae ei awdl hirfaith a mawreddog i’r Grog o Gaer yn gampwaith: dyma, yn sicr, un o gerddi mwyaf uchelgeisiol y cyfnod. Ceir yn y gyfrol ragymadrodd manwl sy’n gosod canu crefyddol y bardd yng nghyd-destun Catholigiaeth yr Oesoedd Canol Diweddar.
Gellir archebu'r cyhoeddiad hwn ar-lein o: gwales.com|