Cyhoeddiadau

Cyfres : Beirdd yr Uchelwyr

27: Gwaith Lewys Morgannwg I  

Front cover of 'Gwaith Lewys Morgannwg I'

Awdur/
Golygydd
 
A. Cynfael Lake
Cyhoeddwyd    2004
ISBN 0 947531 475
Cyhoeddwr   Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
Pris £10.00
Maint  234 x 156mm
Fformat Clawr papur/Paperback, xxv+343

 

Er na chafodd Lewys Morgannwg (fl. c.1523–55) ryw lawer o sylw gan haneswyr llên yr oedd yn ddiamau yn un o feirdd pwysicaf a mwyaf cynhyrchiol ei oes. Perthynai i deulu o brydyddion (yr oedd ei dad a’i daid, ei ewythr a’i gefnder, yn feirdd) a diogelwyd rhagor na chant o’i gerddi yn y llawysgrifau – y rhan fwyaf ohonynt yn gywyddau mawl a marwnad. Bu’n ‘athro cerdd dafod o fewn siroedd a thaleithiau Cymru’ ac ef a lofnododd drwydded Gruffudd Hiraethog pan raddiodd hwnnw yn ddisgybl pencerddaidd. Yr oedd i’w noddwyr le amlwg a blaenllaw ym mywyd cyhoeddus Cymru ac nid rhyfedd i G. J. Williams ei ddisgrifio fel ‘cyfaill yr awdurdodau gwladol’.

Gellir archebu'r cyhoeddiad hwn ar-lein o: gwales.com