Cyhoeddiadau
Cyfres : Beirdd yr Uchelwyr||
19: Gwaith Gwerful Mechain ac Eraill
Awdur/
Golygydd
|
Nerys Ann Howells
|
|
Cyhoeddwyd
|
2001
|
|
ISBN
|
0 947531 41 6
|
|
Cyhoeddwr
|
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
|
|
Pris
|
£10.00
|
|
Maint
|
234 x 156mm
|
|
Fformat
|
Clawr papur/Paperback, xvi+195
|
Cyflwynir yn y gyfrol hon waith Gwerful Mechain, bardd o Faldwyn a ganai yn ail hanner y bymthegfed ganrif a’r unig Gymraes o’r Oesoedd Canol y mae casgliad sylweddol o’i cherddi wedi goroesi. Er mai cywyddau ac englynion yn unig a gadwyd o’i gwaith, y mae amrywiaeth themâu’r canu yn mynnu sylw. Cyfansoddodd Gwerful Mechain rai o gerddi maswedd mwyaf uniongyrchol a dilyffethair yr iaith Gymraeg, ond y mae’n bwysig cofio mai un agwedd ar ei gwaith a gynrychiolir gan y cerddi hynny. Canodd yn ogystal gywyddau crefyddol ac englynion brud a bu’n ymryson â beirdd megis Dafydd Llwyd o Fathafarn, Ieuan Dyfi a Llywelyn ap Gutun.