Cyhoeddiadau
Cyfres : Beirdd yr Uchelwyr||
10: Gwaith Llywelyn Goch ap Meurig Hen
Awdur/
Golygydd
|
Dafydd Johnston
|
|
Cyhoeddwyd
|
1998
|
|
ISBN
|
0947531157
|
|
Cyhoeddwr
|
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
|
|
Pris
|
£10.00
|
|
Maint
|
234 x 156mm
|
|
Fformat
|
Clawr papur/Paperback, xiv+121
|
Cynhwysir yn y gyfrol hon saith awdl a phum cywydd wedi eu priodoli i’r uchelwr o fardd Llywelyn Goch ap Meurig Hen, a ganai rhwng tua 1350 a 1390. Y mae amrywiaeth ei ganu yn ei gysylltu â dwy ffrwd y traddodiad barddol yn y bedwaredd ganrif ar ddeg, sef, ar y naill law, â chanu’r Gogynfeirdd diweddar a oedd yn dal i gyfansoddi awdlau yn nhraddodiad Beirdd y Tywysogion, ac ar y llaw arall â chanu’r Cywyddwyr a oedd yn canu ar bynciau newydd a ffres. At ei gilydd defnyddiodd Llywelyn yr awdl ar gyfer canu mawl traddodiadol, a’r cywydd ar gyfer canu serch a mawl mwy personol. Ei gerdd enwocaf, mae’n sicr, yw ei gywydd marwnad i Leucu Llwyd o Bennal ym Meirionnydd, ac yma gwelwn ddyfeisgarwch Llywelyn drwy ei ddefnydd o gonfensiwn y serenâd. Hanai Llywelyn o sir Feirionnydd, ac yr oedd cyswllt agos rhyngddo a theulu Nannau. Meddai Saunders Lewis amdano, ‘Cymeriad hynod oedd ..., uchelwr annibynnol diofn, beiddgar ac ynddo ysbryd arloeswr a balchder bonedd’. Awgrymwyd mai Llywelyn Goch a’i gyfaill Iolo Goch oedd yn bennaf cyfrifol am arloesi ar fesur cywydd yng ngogledd Cymru, gan ddilyn arweiniad Dafydd ap Gwilym yn y de.
Gellir archebu'r cyhoeddiad hwn ar-lein o: gwales.com|