Cyhoeddiadau
Cyfres : Beirdd yr Uchelwyr||
04: Gwaith Gruffudd ap Dafydd ap Tudur, Gwilym Ddu o Arfon, Trahaearn Brydydd Mawr ac Iorwerth Beli
Awdur/
Golygydd
|
N. G. Costigan (Bosco), R. Iestyn Daniel a Dafydd Johnston
|
|
Cyhoeddwyd
|
1995
|
|
ISBN
|
0947531246
|
|
Cyhoeddwr
|
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
|
|
Pris
|
£10.00
|
|
Maint
|
234 x 156mm
|
|
Fformat
|
Clawr papur/Paperback, xvii+173
|
Pymtheg o gerddi sy’n gynnyrch pedwar bardd pwysig a ganai yn ystod y blynyddoedd yn dilyn y Goncwest ac ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar ddeg a geir yn y gyfrol hon. Gwelir yng ngwaith Gruffudd ap Dafydd ap Tudur, bardd oedd yn hanfod o Fôn yn ôl pob tebyg, rai o’r themâu serch a ddatblygwyd yn ddiweddarach gan Ddafydd ap Gwilym. Canodd Gwilym Ddu o Arfon awdlau ar achlysur carcharu Syr Gruffudd Llwyd a hefyd awdl farwnad i Drahaearn Brydydd Mawr. Nodweddir cerddi Gwilym yn arbennig gan ddwyster y teimlad a grym ei ymadrodd. Cymysgryw yw cynnyrch Trahaearn a ganodd yn Ystrad Tywi a Morgannwg – ar y naill law ceir ganddo ddwy awdl wedi eu cyfansoddi yn nhraddodiad Beirdd y Tywysogion, ac ar y llaw arall ceir tair cerdd ddychan, gan gynnwys cerdd ddychan lem a chelfydd i’w gyd-fardd Casnodyn. Gan Iorwerth Beli ceir un awdl yn unig sy’n gŵyn i Esgob Bangor am y diffyg parch a ddangosai tuag at feirdd yn ei lys.
Gellir archebu'r cyhoeddiad hwn ar-lein o gwales.com|