Cyhoeddiadau
Cyfres : Hanes Cymdeithasol yr Iaith Gymraeg|
‘Eu Hiaith a Gadwant’?: Y Gymraeg yn yr Ugeinfed Ganrif
Awdur/
Golygydd
|
Geraint H. Jenkins
|
|
Cyhoeddwyd
|
2000
|
|
ISBN
|
0708316573
|
|
Cyhoeddwr
|
Gwasg Prifysgol Cymru / University of Wales Press
|
|
Pris
|
£27.50
|
|
Maint
|
237 x 154mm
|
|
Fformat
|
Clawr papur/Paperback, xv+685
|
Hon yw’r chweched gyfrol mewn cyfres arloesol o astudiaethau ar hanes cymdeithasol yr iaith Gymraeg. Ynddi ceir y dadansoddiad manwl ac awdurdodol cyntaf o hynt yr iaith Gymraeg yn y cyfnod mwyaf cythryblus yn ei hanes. Yn yr un bennod ar hugain a gynhwysir yn y gyfrol trafodir nid yn unig ddirywiad y Gymraeg o safbwynt niferoedd a thiriogaeth, ond hefyd ei brwydr am gydnabyddiaeth a’i swyddogaeth mewn amrywiol feysydd. O’r holl ymadroddion cofiadwy a fathwyd yn yr ugeinfed ganrif y mwyaf arwyddocaol o ddigon i’r siaradwr Cymraeg yw ‘Tynged yr Iaith’, ac y mae’r gyfrol hon yn cynnig sylwebaeth gyffrous ar y prosesau o newid, o ddirywiad ac o adfywiad a brofwyd gan yr iaith fyw hynaf ym Mhrydain.
Y mae fersiwn Saesneg o’r gyfrol hon ar gael yn ogystal: Let’s Do our Best for the Ancient Tongue.|