Cyhoeddiadau

Cyfres : Darlithoedd Coffa J. E. Caerwyn a Gwen Williams

2010: Rhai Addasiadau Cymraeg Canol o Sieffre o Fynwy 

 

Patrick-S-W

Awdur/
Golygydd        
 Patrick Sims-Williams
Cyhoeddwyd   2011
ISBN  9781907029080
Cyhoeddwr Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a  Cheltaidd Prifysgol Cymru
Pris  £5.00
Maint   210 x 138 mm
Fformat  Clawr papur/Paperback, 60tt./pp

 

 

Mae cyfieithiadau o ‘Hanes’ Sieffre o Fynwy ymhlith y cyfrolau Cymraeg Canol cynharaf, tua chanol y drydedd ganrif ar ddeg. O hynny ymlaen hyd ddiwedd yr Oesoedd Canol dyma un o’r testunau amlycaf yn y llawysgrifau sydd wedi goroesi. Yn y ddarlith hon mae Patrick Sims-Williams yn trafod pwrpas y cyfieithiadau a’u perthynas â’i gilydd, gan ganolbwyntio ar fersiynau sydd heb eu cyhoeddi.