Cyhoeddiadau
Cyfres : Darlithoedd Coffa J. E. Caerwyn a Gwen Williams|
2008: ‘Anwir anwedhys y mae yn i ysgrifennv ymma’: Rhai o ymylnodau Edward Lhwyd
Awdur/
Golygydd
|
Brynley F. Roberts
|
|
Cyhoeddwyd
|
2009
|
|
ISBN
|
9781907029004
|
|
Cyhoeddwr
|
Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru
|
|
Pris
|
£2.50
|
|
Maint
|
210 x 138 mm
|
|
Fformat
|
Clawr papur/Paperback, 48tt./pp
|
Y mae ar gael tua 63 o lyfrau sy’n dwyn nodau perchenogaeth Edward Lhwyd, ond gwyddys y bu ganddo yn ei feddiant lawer mwy o lyfrau na hynny. Ceir nodiadau ymyl y ddalen ganddo mewn 13 o’r rhain, yn eu plith llyfrau megis Le Sacr é Coll ège de J ésus gan Julien Maunoir (1659), Grammatica Latino-Hibernica Francis O Molloy, a argraffwyd yn Rhufain ym 1677, a Commentarioli Britannicae Descriptionis Fragmentum (1572),llyfr olaf y meddyg, yr hynafiaethydd a’r hanesydd Humphrey Lhuyd. Yn y ddarlith hon, a gyhoeddir i nodi tri chanmlwyddiant marw Edward Lhwyd, manylir ar gynnwys ei ymylnodau diddorol a dadlennol.