Cynadleddau, Ffora a Seminarau
CYNADLEDDAU
Cynhaliwyd Cynhadledd Ryngwladol bwysig i nodi trichanmlwyddiant marw Edward Lhuyd| gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth rhwng 30 Mehefin a 3 Gorffennaf 2009.
Cynhaliwyd cynhadledd ryngwladol 'Cerrig Milltir’| yn Aberystwyth 28 Mehefin–2 Gorffennaf 2005 i ddathlu ugeinfed pen blwydd y Ganolfan.
Fora
Y mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn cynnal cyfres o ffora (neu gynadleddau undydd) yn rheolaidd. Fel arfer, cynhelir un fforwm i bob prosiect bob blwyddyn.
Os hoffech dderbyn manylion am ein ffora, anfonwch eich enw a’ch cyfeiriad i: canolfancymru.ac.uk.| Cedwir yr wybodaeth hon ar ein systemau cyfrifiadur er mwyn anfon gwybodaeth atoch am weithgareddau’r Ganolfan. Ni roddir yr wybodaeth i unrhyw sefydliad arall.
Tachwedd 2011
Ffora Blaenorol
2011: Cynhadledd Sefydlu Cymdeithas Enwau Lleoedd Cymru
2011: Fforwm Undydd Cymru a'r Chwyldro Ffrengig: Rhyddid
2011: Gwydr Lliw yng Nghymru
2011: 'Ancient Britons, Wales, and Europe - New Research in Genetics, Archaeology, and Linguistics'
2011: Arglwyddi a Beirdd: Gwent, Rhaglan a Rhyfeloedd y Rhosynnau
2011: Cynhadledd 'Wales and Revolution' (cynhaliwyd ar y cyd gan The Association for Welsh Writing in English)
2011: Enwau Lleoedd a Chymru'r Oesoedd Canol
2010: The Legacy of Rome: Wales AD 300-700
2010: Cymru a'r Chwyldro Ffrengig
2010: Rethinking the Bronze Age and the Arrival of Indo-European in Atlantic Europe
2010: Guto'r Glyn a Glyn-y-groes: Bardd o'r bymthegfed ganrif yn ardal Llangollen
2010: Trydydd Gweithdy Cymru a Llydaw: Cyffyrddiad Ieithyddol
SEMINARAU
Y mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn cynnal dwy gyfres o seminarau (yn aml ar waith mewn llaw) bob blwyddyn. Fe’u cynhelir fel arfer yn Ystafell Seminar y Ganolfan am 5:00 o’r gloch bob yn ail ddydd Iau yn ystod tymhorau’r Pasg a’r Hydref. Y mae’r rhan fwyaf o bapurau tua 50 munud o hyd, gan adael rhyw 20 munud ar y diwedd ar gyfer cwestiynau. Estynnir croeso cynnes i bawb.
Os hoffech dderbyn manylion am ein seminarau a’n cynadleddau drwy’r post, anfonwch eich enw a’ch cyfeiriad i: canolfancymru.ac.uk.| Cedwir yr wybodaeth hon ar ein systemau cyfrifiadur er mwyn anfon gwybodaeth atoch am weithgareddau’r Ganolfan. Ni roddir yr wybodaeth i unrhyw sefydliad arall.