Trawsgrifiadau o lythyrau Thomas Stephens ar gael ar lein

Dr Marion Löffler with the four volumes of correspondence

Mae’r tîm y tu ôl i brosiect ymchwil a gaiff ei ariannu gan Ymddiriedolaeth Leverhulme ar Thomas Stephens o Ferthyr Tudful wedi trefnu bod dros 400 o lythyrau a anfonwyd at y Fferyllydd a’r ysgolhaig hunan-ddysgedig, a daniodd chwyldro mewn dysgeidiaeth hanesyddol Gymreig, ar gael i’r cyhoedd ar lein.

Er mis Tachwedd 2014, bu Dr Löffler yn arwain prosiect ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru o’r enw Trosglwyddo Gwybodaeth a Rhwydweithiau Cymdeithasol: Dysg Ewropeaidd a'r Chwyldro yn Ysgolheictod Cymru Oes Fictoria. Gan ymchwilio i sut y trosglwyddid gwybodaeth Ewropeaidd i Ferthyr Tudful yn y 1840au a’r 1850au, mae’r prosiect wedi archwilio effaith nawdd elit lleol a rôl y dosbarth canol is yn y broses o foderneiddio Cymru a’i dysg, yn ogystal â chanolbwyntio ar fywyd, oes a chysylltiadau Ewropeaidd yr hanesydd a’r diwygiwr cymdeithasol Thomas Stephens.

 A Letter from America

Llythyr o America

Rhoddwyd archif helaeth Thomas Stephens i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ym 1916, ac mae’r rhan fwyaf o’r llythyrau a anfonwyd ato wedi’u rhwymo mewn pedair cyfrol fawr. Gwefan y Llyfrgell felly yw cartref naturiol y llythyrau a anfonwyd i Gymru o bedwar ban byd: America, Awstralia, Lloegr, Ffrainc, yr Almaen, Iwerddon, yr Alban a’r Swistir, ond sydd wedi cael cartref parhaol ers tro byd yn Aberystwyth.

Ymhlith y gohebwyr Cymreig enwog mae’r Fonesig Charlotte Guest, Augusta Hall (Arglwyddes Llanofer), Walter Davies (Gwallter Mechain), Harry Longueville Jones, Thomas Price (Carnhuanawc)a’r geiriadurwr D. Silvan Evans. Roedd pynciau’r trafodaethau a allai fod yn danllyd yn cynnwys cystadlaethau a beirniadaethau eisteddfodol, y berthynas rhwng gweithwyr a meistri haearn Merthyr, diwygiadau’r orgraff Gymraeg a ddechreuwyd ym 1858, cantorion yr Arglwyddes Llanofer, derwyddiaeth, ac wrth gwrs gwaith a chyhoeddiadau Thomas Stephens ei hun.

Nod y tîm yw sicrhau cydnabyddiaeth i ymdrechion Thomas Stephens ar ran ei gymuned ym Merthyr Tudful i foderneiddio diwylliant Cymru a chwyldroi ysgolheictod Cymraeg, ac mae Dr Marion Löffler a Dr Adam Coward wedi penderfynu gosod cynnyrch cyntaf eu hymchwil ar-lein er mwyn iddo fod ar gael am ddim i’r cyhoedd.

Dywedodd arweinydd y prosiect Dr Marion Löffler: 

 Druidic rays in a letter by William Richard John (Mathonwy)

Pelydrau derwyddol mewn llythyr gan William Richard John (Mathonwy)

“Mae’r llythyrau hyn yn dangos nad oedd de Cymru ar yr ymylon, ond yng nghanol rhwydweithiau a chysylltiadau gohebiaeth byd-eang. Byddai Cymry alltud yn ysgrifennu o America ac Awstralia, byddai hynafiaethwyr o Iwerddon a Chymru’n ceisio atebion i gwestiynau am gromlechi ac arysgrifau Celtaidd, a byddai ysgolheigion Celtaidd rhyngwladol fel Adolphe Pictet a Hersart de la Villemarqué yn gohebu ar ddehongli enwau afonydd Celtaidd a ffigurau chwedlonol fel Hu Gadarn. Ymhlith y llythyrau rhyfeddaf a anfonwyd at Stephens mae rhai gan William Wilde, tad Oscar Wilde, a gyfunodd ei waith fel arbenigwr nodedig ar y llygaid â diddordebau hynafiaethol.  Gohebodd â Stephens am enw a natur ‘y fad felen’ a ysgubodd drwy Ynysoedd Prydain yn y chweched ganrif OC.”

Os oes gennych chi ddiddordeb ym Merthyr Tudful, Cymru neu ysgolheictod Celtaidd Ewropeaidd, dylai’r pedair cyfrol o ohebiaeth fod yn ddarllen difyr.

Gallwch gyrchu’r llythyrau drwy’r dolenni isod:
https://archives.library.wales/index.php/letters-534
https://archives.library.wales/index.php/letters-889

Ddydd Mercher 9 Awst yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru ar Ynys Môn, bydd Dr Marion Löffler yn traddodi darlith Cymdeithas Carnhuanawc. Y teitl fydd Thomas Stephens a Chymreigyddion Y Fenni, ac fe’i cynhelir am hanner dydd ym Mhabell y Cymdeithasau 1. Estynnir croeso cynnes i bawb.

I gael rhagor o wybodaeth am y prosiect ymchwil, ewch i wefan y Ganolfan.