Astudiaethau Ôl-raddedig

 

astudiaethau Ôl-raddedig cymreig a cheltaidd

 

_DSC4451

Mae Canolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru yn Aberystwyth yn cynnig astudiaethau ôl-raddedig ar gyfer graddau ymchwil MPhil neu PhD ym meysydd Astudiaethau Cymreig a Cheltaidd. Disgwylir i ymgeiswyr feddu ar radd ddosbarth cyntaf neu ail ddosbarth uwch mewn pwnc perthnasol, a gallant ddewis astudio o bell.

Pam dewis y ganolfan?

Rydym yn ganolfan ymchwil bwrpasol sy’n cynnal prosiectau cydweithredol ar ieithoedd, llenyddiaethau, diwylliant a hanes Cymru a’r gwledydd Celtaidd eraill. Mae’n prosiectau presennol yn canolbwyntio ar hanes cynnar yr ieithoedd Celtaidd, llenyddiaeth Gymraeg yr Oesoedd Canol, yr Ymoleuo a Rhamantiaeth yng Nghymru 1750–1900 ac enwau lleoedd Cymru. Ceir arbenigedd hefyd mewn meysydd fel hanes yr iaith Gymraeg a diwylliant gweledol Cymru, ac yma hefyd y mae cartref Uned Geiriadur Prifysgol Cymru. Mae hyn yn golygu bod ein myfyrwyr ôl-raddedig yn cael eu cyfarwyddo gan ysgolheigion o fri rhyngwladol mewn ystod eang o feysydd, ac yn gweithio ochr-yn-ochr â chymrodyr ôl-ddoethurol mewn amgylchfyd cefnogol gydag adnoddau ymchwil ardderchog.

Mae ein myfyrwyr yn elwa o’r rhaglen hyfforddiant a gynigir yma ar dechnegau ymchwil, ysgrifennu a golygu, cyfathrebu drwy'r cyfryngau torfol, a dysgu, ac mae gwasanaethau ychwanegol yn cael eu darparu trwy gydweithrediad â Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant (campws Llanbedr Pont Steffan) a gwasanaethau cyfrwng Cymraeg drwy’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Mae’r Ganolfan wedi ei lleoli y drws nesaf i Lyfrgell Genedlaethol Cymru yn Aberystwyth a chawn fynediad y tu hwnt i'r cyffredin i’w hadnoddau, sy’n cynnwys y casgliad helaethaf yn y byd o lawysgrifau Cymreig ac un o’r casgliadau mwyaf o lenyddiaeth eilaidd ym maes Astudiaethau Celtaidd, a chelf a ffotograffiaeth Cymru.

Mae Aberystwyth yn un o gadarnleoedd y Gymraeg ac yn lle perffaith i ddysgu’r iaith. Gall myfyrwyr astudio trwy gyfrwng y Gymraeg neu’r Saesneg, ond y Gymraeg yw prif gyfrwng gwaith y Ganolfan a rhoddir pob cefnogaeth i fyfyrwyr sy’n dymuno ei dysgu.

Edrychwch ar ein gwefan i gael golwg ar y gwaith ymchwil a gyflawnir yma. Os oes gennych ddiddordeb mewn dilyn astudiaethau ôl-raddedig yn y Ganolfan, mae croeso mawr i chi gysylltu â’r aelod o staff a all fod â diddordeb yn eich prosiect, neu holwch y Cyfarwyddwr Astudiaethau Ôl-raddedig:

Dr Marion Löffler, marion.loeffler@cymru.ac.uk, É +44 (0)1970 636543.

Prosiectau PhD cyfredol a rhai a fu’n llwyddiannus yn ddiweddar

 

Emily Pennifold: ‘Field-names on a linguistic frontier: case studies from Radnorshire and Shropshire’ (Dr David Parsons)

Martin Crampin: ‘Artistic engagements with medieval decorative arts in Wales: recording, interpretation and invention’ (Yr Athro Dafydd Johnston)

Mae’r ddoethuriaeth hon, sy’n seiliedig ar waith ymarferol, yn ystyried y gwahanol ffyrdd y mae artistiaid wedi mynd i’r afael â chelfyddyd weledol ganoloesol. Rhoddir pwyslais arbennig ar gelf addurnol ac ar artistiaid sydd wedi gweithio yng Nghymru neu wedi ymddiddori mewn cynnwys canoloesol Cymreig.

Linus Band: ‘The history and usage of Brythonic compound verbs with “to be”’ (Yr Athro John T. Koch)

Mae’r prosiect hwn yn casglu ac yn dadansoddi pob ffurf ferfol sy’n gyfansoddair â “bod” mewn Hen Frythoneg, Cymraeg Canol, Llydaweg Canol, a Chernyweg, gan ddisgrifio eu tarddiad, datblygiad a defnydd.

Rhian James: ‘Developing Welsh Wills Online’ (Dr David Parsons)

Mae’r prosiect hwn yn archwilio sut y gellir defnyddio dulliau digidol i ofyn cwestiynau newydd am gasgliad cyfoethog Llyfrgell Genedlaethol Cymru o ewyllysiau ac yn ystyried effaith y fath ddulliau ar sut y caiff casgliadau mawr, testunol, distrwythur eu cynrychioli a’u dadansoddi.

Rhys Kaminsky-Jones: ‘True Britons: Ancient British identity in Wales and Britain, 1707–1806’ (Dr Mary-Ann Constantine)

Mae’r traethawd hwn yn ymchwilio i’r hunaniaeth ‘Hen Frytanaidd’ a hawliwyd gan nifer fawr o Gymry yn ystod y ddeunawfed ganrif: mae hanes y fersiwn pwysig hwn o hunaniaeth Brydeinig yn medru ein helpu i ddeall y berthynas gymhleth rhwng Cymru a’r wladwriaeth Brydeinig. 

Prosiectau PhD (ac enwau y Cyfarwyddwyr Astudiaethau) o 1 Hydref 2015 ymlaen

 

Andrew Brown: ‘“The abominable plunderer of wrecks”: The Welsh Wrecker 1700–1860, custom and practice’ (Dr Marion Löffler)

Dewi Huw Owen: ‘Cyfieithiadau Cymraeg, c.1750– c.1900’ (Dr Marion Löffler)

Kirsty McHugh: ‘Northern English Travellers to Wales and Scotland 1760–1840: a study of manuscript accounts from Yorkshire and Lancashire’ (Dr Mary-Ann Constantine)

Paulus van Sluis: ‘The treatment of voiceless stops after verbs in Middle Welsh’ (Yr Athro John T. Koch)

Rhaglen hyfforddiant 

 

Gwasgwch yma i weld Rhaglen Hyfforddiant y Ganolfan 2015-2018

 

Cyfleoedd am nawdd

Mae’r Ganolfan yn rhan o Canolfan Hyfforddiant Doethurol yn yr ieithoedd Celtaidd, eu llenyddiaethau a’u diwylliannau, wedi ei hariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (AHRC), sydd yn cynnig ysgoloriaethau PhD bob blwyddyn tan 2020. Os oes gennych ddiddordeb mewn ceisio am ysgoloriaeth 2016/2017, cysylltwch â marion.loeffler@cymru.ac.uk neu’r aelod o staff perthnasol yn eich maes ymchwil. 

2015-07-10 10.23.52

Am wybodaeth bellach am y Ganolfan Hyfforddiant Doethurol, gweler: http://www.gla.ac.uk/colleges/arts/graduateschool/fundingopportunities/ahrccentrefordoctoraltrainingincelticlanguages/

 

Rheolau a Rheoliadau Prifysgol Cymru

 

Codau Ymarfer Prifysgol Cymru ar gyfer graddau PhD ag MPhil (dogfen Saesneg)

Rheoliadau Prifysgol Cymru ar gyfer graddau PhD ag MPhil (dogfen Saesneg)