Neuadd Gregynog

 

Cafwyd croeso yma ers canrifoedd

Hen dŷ yn gwisgo wyneb Oes Fictoria. Er ei fod ymhell o bob dinas,gwnaeth gyfraniad i hanes, celfyddyd a gwleidyddiaeth Cymru.Lle bu unwaith ystad nobl, bellach ceir canolfan gynadleddaprifysgol, ond erys y tŷ yng nghalon y gymuned. Er mor swynol ywtrydar yr adar, tangnefedd yw prif nodwedd y fro. Seiniau trafod,cerdd a chwerthin a glywir o’r ystafelloedd cynadledda ond ceircilfachau tawel sy’n ddelfrydol ar gyfer darllen a breuddwydio…