Cynadleddau
Pan gyflwynwyd Gregynog i Brifysgol Cymru drwy gymynrodd, roedd yr hyn a etifeddwyd yn llawer mwy na chanolfan gynadledda syml. Roedd yn sefydliad cenedlaethol, a fu’n nodedig am ei letygarwch ers o leiaf pedair canrif, ac oedd wedi cynnal cynadleddau ers y 1920au.
Fel elusen addysgol gofrestredig, rydym ni’n cynnig gwerth rhagorol am arian mewn lleoliad unigryw, gan ddarparu cynadleddau preswyl a dydd yng nghanol heddwch a llonyddwch ein safle godidog.
Mae ein wyth ystafell gynadledda, sydd â chyswllt gwe diwifr, yn darparu nifer o opsiynau ymneilltuo a gallwn gynnal digwyddiadau o’r math mwyaf modern. Gall yr Ystafell Gerddoriaeth eistedd hyd at 180 o bobl. Mae’r Ystafell Fwyta yn darparu ar gyfer 100, a gall Ystafell Blaenau, gyda’i cherfiadau derw ysblennydd, gynnal derbyniad i 40. Ceir dewis o leoliadau trwyddedig yn Ystafell Davies a Bar y Seler.
''Lleoliad bendigedig ar gyfer cynhadledd, gyda bwyd a llety ardderchog a staff cyfeillgar a pharod eu cymwynas. Diolch o galon.''
Os hoffech chi logi’r tŷ cyfan, yna mae pecynnau ‘defnydd neilltuedig’ ar gael, sy’n cynnig preifatrwydd ynghyd a lefel uchel o ddiogelwch ar gyfer cyfarfodydd rhyngwladol. Gwnewch argraff ar eich cynrychiolwyr gyda chwaeth arbennig y Chwiorydd Davies, mewn adeilad lle’r arferai darluniau Renoirs, Monet a Picasso addurno’r waliau, a lle mae cerfluniau Rodin yn dal i sefyll.
Yng Ngregynog, mae’r croeso yn un Cymreig a chynnes, yn canolbwyntio ar ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl. Mae’r dyfarniad ‘Hospitality Award’ clodiwiw wedi bod gennym ers 2002, y sefydliad Cymreig cyntaf i’w ennill, ac rydym ni’n gyson yn adeiladu ar ein henw da o ran darparu gwasanaeth
o ansawdd. Bob blwyddyn mae cofnod boddhad ein gwesteion dros 85%, ac mae’r nifer sy’n dychwelyd yn dyst i hynny. Rydym ni hefyd yn dal achrediad Buddsoddwr mewn Pobl.
''Dydw i ddim eisiau gadael. Rwyf wrth fy modd yng Ngregynog. Mae’n lle hudolus gyda phobl a bwyd gwych. Mae’n llawn cynhesrwydd. ''
Pecynnau Cynhadledd wedi’u Personoli
Yn wahanol i nifer o dai hanesyddol, mae Gregynog wedi cadw ei hyblygrwydd, ac wedi ychwanegu dychymyg a dealltwriaeth i greu digwyddiadau unigol a phecynnau wedi’u personoli. Fe welwch chi y gallwn ni ddarparu’r union beth rydych chi’n ei ddymuno, o croquet ar y lawnt i chwaraeon maes.
Cyfleusterau Cyflwyno a Gwasanaethau Swyddfa
Mae cyfleusterau cyflwyno safonol yn gynwysedig yn y gyfradd cynrychiolwyr a gellir llogi cyfleusterau fideogynadledda wrth archebu. Mae gan yr Ystafell Gerddoriaeth system PA a dolen sain. Mae cymorth TG llawn ynghyd â
gwasanaethau swyddfa hefyd ar gael.
Gweler ein Rhestr Brisiau Masnachol|
Rydym ni’n cynnig cyfraddau cymorthdaledig ar gyfer cynadleddau addysgol.
Am restr brisiau llawn, gweler ein Rhestr Brisiau Addysgol|.
cronfa cefnogi colocwia
Ar gael i Sefydliadau Achrededig Prifysgol Cymru’n unig.
Mae Gregynog yn unigryw yn yr ystyr ei fod yn ymroddedig yn bennaf i gynnal cynadleddau o natur academaidd a gall ddarparu ar gyfer anghenion penodol y farchnad. Mae Gregynog ar gael trwy gydol y flwyddyn fel y gellir cyfuno defnydd y neuadd gyda’r amserlen academaidd. Yn yr haf gellir ei defnyddio ar gyfer cynadleddau staff y tu allan i’r tymhorau arferol.
Mae Cronfa Cefnogi Colocwia Gregynog yn bodoli ar hyn o bryd i gefnogi gweithgaredd ymchwil trwy gydol Prifysgol Cymru; yn arbennig gweithgaredd ymchwil cydweithredol rhwng sefydliadau achrededig y Brifysgol. Ceir croeso arbennig i geisiadau sy’n annog cyfranogiad ôl-raddedig.
Mae’r Gronfa’n cyfrannu cymhorthdal sylweddol tuag at gostau llety a bwyd ac mae swm y dyfarniad yn gysylltiedig gyda faint o welyau a ddefnyddir.
Termau ac Amodau Colocwia 2011/12|
Ffurflen Gais Colocwia 2011/12
|
Nodwch os gwelwch yn dda bod angen i chi fod wedi gwneud archeb dros dro am eich colocwiwm cyn cyflwyno’ch cais am gymorth gan Gronfa Cefnogi Colocwia Gregynog.
Am ragor o wybodaeth cwblhewch ein ffurflen ymholiad|.