Astudio

Ystyried astudio gyda ni ?  

Cofrestrwch gyda’r Brifysgol i dderbyn gwybodaeth a’r diweddaraf, ac yn ogystal

ymunwch â’n Fforwm a gofynnwch i fyfyrwyr go iawn am eu barn nhw

Cofrestrwch nawr|

TooltipHelp: You'll need to register and then you'll have access to the online Forum for people who are thinking of studying with the University of Wales

 

 

Cwestiynau a ofynnir yn aml

'Rwyf i'n gofrestredig ar gynllun astudio dilysedig, sut fedraf i gael mynediad at y Llyfrgell Ar-lein?

Ateb:
Unwaith i chi fewngofnodi i wefan y Brifysgol bydd modd i chi gael mynediad at y Llyfrgell Ar-lein

A gaf i ddod i ddathliad graddio yng Nghymru?

Ateb:
Cewch, os yw eich canlyniad terfynol wedi’i gadarnhau gan Fwrdd Arholi Prifysgol Cymru o leiaf un mis cyn y digwyddiad blynyddol dylech fod yn gallu dod i ddathliad graddio yng Nghymru. Bydd gwybodaeth ynglŷn â sut i gofrestru yn cael ei hanfon i’ch Sefydliad, a bydd ar gael ar ein Gwefan ni

Rwyf i wedi colli/difrodi fy nhystysgrif gradd, oes modd i mi gael un arall?

Ateb:
Oes. Os yw eich tystysgrif wedi’i difrodi, gallwn anfon un newydd yn ddi-dâl o dderbyn y dystysgrif wreiddiol. Bydd ffi o £25 am dystysgrif newydd os yw wedi mynd ar goll

Mae angen Atodiad Diploma /trawsgrifiad o fy astudiaethau. At bwy ddylwn i fynd i ofyn?

Ateb:
Os ydych chi wedi cwblhau cwrs dilysedig byddwch yn derbyn Atodiad Diploma yn awtomatig gyda'ch tystysgrif

Rwyf i am wneud cwyn ffurfiol i Brifysgol Cymru am rai o fy mhrofiadau'n astudio ar gynllun dilysedig. Beth yw'r drefn?

Ateb:
Gall myfyrwyr ar gynlluniau dilysedig wneud cwyn i’r Brifysgol yn unol â’r Drefn Gwyno i Fyfyrwyr os bydd ymdrechion i ddatrys y broblem drwy’r mecanweithiau sy’n bodoli yn eich Sefydliad wedi methu

Rwyf i am apelio i Brifysgol Cymru. Beth ddylwn i ei wneud?

Ateb:
Caiff myfyrwyr sydd wedi cwblhau eu cyfnod o astudio neu sydd wedi ennill dyfarniad ymadael Prifysgol Cymru apelio penderfyniad y Bwrdd Arholi yn unol â Gweithdrefn Gwirio ac Apelio Prifysgol Cymru

Beth yw rhaglen ddilysedig Prifysgol Cymru?

Ateb:
Mae hyn yn golygu bod Sefydliad wedi cynllunio cwrs, y mae'n gwbl gyfrifol am ei ddysgu, sydd wedi'i gymeradwyo gan Brifysgol Cymru fel un sydd o safon ac ansawdd priodol i arwain at ddyfarniad Prifysgol Cymru

A yw'r Brifysgol yn gallu fy helpu gyda fy nghais am fisa?

Ateb:
Y Sefydliad sy'n cyflenwi'r cwrs y mae gennych chi ddiddordeb ynddo sy'n gyfrifol am yr holl faterion yn ymwneud â fisa

Lle gallaf i ddysgu am ddyfarniad Prifysgol Cymru?

Ateb:
Mae Prifysgol Cymru yn gweithio gyda nifer fawr o Sefydliadau ar draws y byd - gallwch weld a yw cwrs yn cael ei gynnig yn eich gwlad chi drwy ddefnyddio’r adnodd chwilio
Arddangos 1 I 10 O 12
Blaenorol 1 2 Nesaf
 

 

Eisoes yn fyfyriwr ?

Mynnwch wybodaeth

Help gydag Astudio 

  • eBooks o NetLibrary
  • Pyrth a Dolenni

Cwblhau eich Astudiaethau

  • Cwestiynau a ofynnir yn aml
  • Graddio