Datblygiadau diweddar o ran uno Prifysgol Cymru

Yn dilyn y cyhoeddiad a wnaed gan Brifysgol Cymru mewn perthynas â chynnydd y broses uno, rydym ni'n gyson wedi datgan y byddwn yn anrhydeddu ein hymrwymiadau i’r holl fyfyrwyr sydd ar hyn o bryd wedi cofrestru ar ddyfarniadau Prifysgol Cymru. 

Rydym yn cydnabod fod rhai pryderon yn parhau i fyfyrwyr, ac mae'r cwestiynau canlynol yn enghreifftiau gan fyfyrwyr Prifysgol Cymru. Rydym yn deall fod myfyrwyr yn dymuno cael y newyddion diweddaraf am y broses wrth iddi fynd rhagddi, a bydd rhagor o wybodaeth ar gael wrth i’r uno barhau.

FAQsRss FeedAtom Feed

Ateb:
Mae gan radd Prifysgol Cymru ac enw Prifysgol Cymru hanes cryf yn ogystal â chydnabyddiaeth eang a pharch gan gyflogwyr yn fyd-eang. Mae llawer o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Cymru wedi graddio o brifysgolion nad ydynt bellach yn dyfarnu graddau Prifysgol Cymru. Nid yw’r rhain wedi dioddef unrhyw effaith niweidiol o ganlyniad i’r newid hwnnw ac maent yn cynnwys llawer o aelodau blaenllaw o Lywodraeth Cymru, bywyd cyhoeddus a staff academaidd prifysgolion ledled y DU.
Ateb:

Mae datblygiadau diweddar o ran polisi Addysg Uwch yng Nghymru wedi'u gyrru gan awydd i gael llai o brifysgolion yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn sefydlu polisïau fydd yn golygu mai dim ond chwech neu saith o brifysgolion fydd yng Nghymru (ar hyn o bryd mae un ar ddeg). Mae’r uno rydym ni’n rhan ohono yn ymateb i’r her hon gan y Llywodraeth.

Ateb:
Fel y nodwyd yn yr ateb i gwestiwn dau mae llawer o gyn-fyfyrwyr llwyddiannus iawn o Brifysgol Cymru, ac rydym yn rhagweld y bydd llawer mwy.  
Ateb:

Mae myfyrwyr wedi bod yn rhan o’r broses, ac mae’r Is-Ganghellor wedi cynnal cyfarfodydd gyda Llywydd UCMC a hefyd Llywyddion Myfyrwyr eraill o Brifysgolion yng Nghymru.

Ateb:

Rydym ni’n disgwyl i’r Brifysgol ar ei newydd wedd fod ag un corff Undeb Myfyrwyr a fydd yn cynrychioli barn myfyrwyr. Mater i’r myfyrwyr yw penderfynu pa ffurf fydd i'r Undeb Myfyrwyr.  

Ateb:
Os ydych chi wedi cael cynnig lle ar gwrs Prifysgol Cymru, fe gewch eich trin yn union yr un ffordd â holl fyfyrwyr y gorffennol ac os byddwch chi’n llwyddiannus, byddwch yn gadael gyda dyfarniad Prifysgol Cymru.

Ymholiadau|
Ateb:

Na fydd. Gall myfyrwyr fod â hyder llawn yn ansawdd a safonau dyfarniadau Prifysgol Cymru. Nododd yr Adolygiad Sefydliadol o Brifysgol Cymru a gynhaliwyd gan yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd (ASA) yn 2010 y canlyniad uchaf posibl o ran hyder.

Ateb:

Bydd Prifysgol Cymru yn parhau i ddefnyddio prosesau sicrhau ansawdd trylwyr ym mhob un o’i dyfarniadau. 

Ateb:

Bydd Prifysgol Cymru yn parhau i weithredu fel corff dyfarnu graddau i'r holl fyfyrwyr cyfredol drwy gydol eu cwrs.

Ateb:

Bydd. Os ydych chi’n astudio am radd Prifysgol Cymru ar hyn o bryd, pan fyddwch yn cwblhau’n llwyddiannus byddwch yn derbyn tystysgrif gradd a fydd yn nodi “Prifysgol Cymru” fel y corff sy’n dyfarnu’r radd.

Ateb:

Caiff ffioedd dysgu eu pennu gan y Ganolfan Gydweithredol neu’r Brifysgol lle'r ydych chi’n astudio. Dylai pob trefniant nawdd cyfredol gael ei anrhydeddu cyhyd â’ch bod chi’n parhau ar gwrs Prifysgol Cymru.

Ateb:

Gwaddolwyd nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau i’r Brifysgol, sydd ag amodau penodol iddynt, a byddant yn parhau i gael eu dyfarnu. Bydd cylch cyfredol y bwrsariaethau Dilysu yn cael eu hanrhydeddu a disgwylir y caiff y dyfarniadau eu gwneud dros y misoedd nesaf.

Ateb:

Nid yw Prifysgol Cymru erioed wedi ymddangos ar unrhyw raddfa oherwydd ei natur Ffederal. Bydd Prifysgol Cymru: Y Drindod Dewi Sant yn ymddangos yn y systemau graddio, ond bydd yn cymryd peth amser i sefydlu ei safle.    

Ateb:

Bydd y brifysgol yn cwmpasu nifer o gampysau a chyfleusterau a bydd croeso i fyfyrwyr ymweld â’r holl gyfleusterau. 

Ateb:

Rydym ni’n darparu pecynnau gwybodaeth manwl i academyddion drwy Brifysgol Cymru gyfan a byddem yn disgwyl o fewn yr wythnosau nesaf y bydd y mwyafrif o gwestiynau yn gallu cael eu hateb o fewn eich adrannau neu eich colegau eich hun. Yn ogystal â hyn byddwn ni’n sefydlu fforwm myfyrwyr ar ein gwefan er mwyn mynd i’r afael ag unrhyw bryderon eraill.

Ateb:
Nac oes. Nid ydym ni’n credu y dylai unrhyw rai o’r datblygiadau diweddar fod yn bryder i fyfyrwyr i’r graddau eu bod yn dymuno newid prifysgol.    
Ateb:

Mae ein holl gyrsiau proffesiynol yn cwrdd â safonau’r DU ac rydym yn disgwyl y bydd hyn yn parhau.

Arddangos 1 I 17 O 17