Cwynion Myfyrwyr

Caiff unrhyw fyfyriwr sydd wedi corfrestru ar raglen ddilysedig sy'n arwain at ddyfarniad Prifysgol Cymru ddefnyddio Gweithdrefn Gwynion y Brifysgol.

unrhyw fyfyriwr sydd wedi corfrestru ar raglen ddilysedig sy'n arwain at ddyfarniad Prifysgol Cymru ddefnyddio Gweithdrefn Gwynion y Brifysgol.

Mae'r weithdrefn yn cwmpasu llawer o feysydd o fewn profiad y myfyriwr a gellir ei chymhwyso i gwynion yn codi o brofiad addysgol y myfyriwr, cwynion mewn perthynas â chymorth academaidd neu weinyddol a chyhuddiadau o aflonyddu neu gamwahaniaethu gan staff.

Nid yw'r weithdrefn hon yn gymwys ar gyfer apeliadau| yn erbyn penderfyniadau academaidd na phenderfyniadau addasrwydd i ymarfer|, y ceir gweithdrefnau Prifysgol Cymru eraill ar eu cyfer.

Ym mhob achos byddai'r Brifysgol yn ceisio datrys cwynion o fewn sefydliadau'r myfyrwyr mewn modd mor anffurfiol â phosibl. Lle nad yw hyn yn bosibl, fodd bynnag, dylid defnyddio'r weithdrefn hon.

Yn ddiweddar mae Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr wedi cyhoeddi Siarter Sefydliadol ar Weithdrefnau Cwyno ac Apelio|.

I gael rhagor o wybodaeth darllenwch: Gweithdrefn Cwyno Myfyrwyr|.

I gael cyngor anffurfiol am gyflwyno cwyn cysylltwch â cwynionmyfyrwyrcymru.ac.uk|