Ysgoloriaeth Deithio Goffa Gareth Jones 2008

Stephen JB Kelly

Fy nghynnig gwreiddiol ar gyfer Ysgoloriaeth Deithio Goffa Gareth Jones 2008 oedd cynhyrchu adroddiad yn cofnodi'n syml y cannoedd o weithwyr mudol o India sy'n cael eu cam-drin a'u hesgeuluso yn syfrdanol yng nghanol y twf aruthrol, gwerth biliynau lawer o ddoleri, sydd wedi digwydd yn y diwydiant casino ym Macau ers 2002. macau

Ar ôl cyrraedd Macau yn Hydref 2008 a chwrdd â 'nghyswllt lleol a chyfieithydd, y newyddiadurwr Nishika Patel, cefais fy nghyflwyno i un o'r gweithwyr, sef Praveen. Yn ystod y cyfarfodydd ysbeidiol rhyngof fi a Praveen dros yr wythnosau canlynol, dechreuais ddeall gymaint o gam-drin oedd wedi bod yn digwydd yn llefydd gwaith a byw yr Indiaid. Eglurodd fod pethau wedi gwaethygu'n enbyd ers i fi grybwyll fy mhroject gyntaf yn 2008 a bod ei gydweithwyr yn bryderus iawn ynghylch cael eu lluniau wedi eu tynnu.

Daeth yn amlwg yn fuan na fyddai cofnodi eu bywydau mewn lluniau yn y ffordd yr oeddwn wedi ei disgwyl yn bosibl, gan y byddai hyn yn eu peryglu nhw a'u bywoliaeth.

Penderfynais y byddai'n gallach ac yn fwy diogel iddyn nhw taswn i'n cofnodi storïau'r sawl oedd yn ddigon dewr i'w hadrodd, eu cyfweld, ond heb ddatgelu pwy oedden nhw. Byddai'r portreadau hyn, wedyn, yn cael eu cynnwys mewn darn helaethach o waith yn darlunio bywyd dinas Macau
Fyddai'r gwaith hwn ddim wedi bod yn bosibl heb gefnogaeth a chyllid gan Ysgoloriaeth Deithio Goffa Gareth Jones 2008 ac rwy'n ddiolchgar iawn i fwrdd yr ymddiriedolaeth a phawb sydd ynghlwm wrth yr ysgoloriaeth.


 

Macau: Dinas Bechadurus Tsieina

Ar ôl 450 o flynyddoedd o gael ei rheoli gan Bortiwgal, dychwelodd ardal Macau i sofraniaeth Tsieina ym 1999. Yr ardal hon oedd trefedigaeth Ewropeaidd gyntaf arfordir Tsieina, a'r olaf hefyd. Yn fuan ar ôl dychwelyd i berchenogaeth Tsieina trodd yr ardal bysgota dawel hon yn ganolfan i dwf aruthrol y diwydiant casino, sydd wedi lledu fel tân gwyllt drwy'r rhanbarth.

Macau2 

Mae Macau ar ochr orllewinol delta Afon Perl. Mae gan yr ardal fesur o hunanlywodraeth, a dyma'r unig le yng Ngweriniaeth Tsieina sy'n caniatáu gamblo. Enillodd y 30 o gasinos sydd yn yr ardal 10.4 o ddoleri UDA llynedd yn unig. Yn 2008, roedd disgwyl i gasinos Macau ennill rhyngddynt fwy na $13 biliwn, ddwywaith yn fwy na rhai Las Vegas. O gofio bod Washington D.C chwe gwaith yn fwy nag ardal Macau, mae'r ffigur hwn yn anhygoel o uchel.

Byddai'r twf aruthrol hwn wedi bod yn amhosibl heb y gweithwyr mudol a ddaeth i'r ardal i ddiwallu anghenion y diwydiant casinos. Mae yno gyfanswm o ryw 98,000 o weithwyr mudol, a’r rhan fwyaf ohonynt wedi dod o Dir Mawr Tsieina ei hun, er bod nifer cynyddol yn dod o wledydd De Asia, yn cynnwys y Pilipinas ac India. Mae'r rhain yn gweithio mewn swyddi megis diogelwch a glanhau. Eu gobaith wrth ddod i'r ardal oedd ennill cyflogau uwch er mwyn cynnal eu teuluoedd gartref. Fodd bynnag, stori o gamdriniaeth gan reolwyr y casinos yw hi yn aml.

Mae pethau wedi dechrau newid yn Macau dros y misoedd diwethaf fodd bynnag. Mae'r twf a drodd yr ardal yn ganolbwynt gamblo'r byd wedi arafu, ac mae'r dirwasgiad byd eang wedi atal projectau newydd a niweidio twristiaeth. Mae hawl Tsieineaid y Tir Mawr i deithio wedi cael ei gyfyngu hefyd. Dim ond unwaith pob tri mis y mae trigolion Guandong, er enghraifft, yn cael mynd i Macau erbyn hyn. Mae ymwelwyr o’r Tir Mawr yn hollbwysig i Macau, oddi wrthyn nhw y daeth hanner arian y rhanbarth. Mae'r cyfyngiadau teithio hyn, felly, wedi cael effaith fawr ar dwf economaidd yr ardal.

Cyhoeddodd cwmni Las Vegas Stands ym mis Tachwedd na fyddai'n parhau â'i ddatblygiadau yn Macau. Roedd hyn yn arwydd clir o'r argyfwng sy'n wynebu'r ardal. Canlyniad y penderfyniad hwn oedd i 11,000 o bobl golli eu gwaith. Rhwng 2004 a 2008 roedd pum casino, ar gyfartaledd, yn cael eu hadeiladu pob blwyddyn. Mae'n debyg mai dim ond un fydd yn cael ei hagor y flwyddyn nesaf.

Mae poblogaeth Macau yn ddwys iawn, gyda 18,428 o bobl yn byw ymhob cilomedr sgwâr. Dyma boblogaeth ddwysaf y byd, felly. Mae cymdogaethau gorlawn o gylch clwyd y ffin yn ninas Zhuhai, y porth i'r Tir Mawr. Ac er gwaethaf twf economaidd enfawr y blynyddoedd diwethaf, mae bywyd wedi gwaethygu i lawer iawn o'r boblogaeth leol, ac mae bron ugain y cant ohonynt yn byw mewn tlodi.

Mae'r gwahaniaeth rhwng cyfoeth yr ardal o gylch y casinos ac ardaloedd tlawd gogledd Macau yn amlwg iawn, er mor agos ydynt yn ddaearyddol. Er gwaethaf blynyddoedd o dwf economaidd enfawr, mae'r bobl leol yn credu nad yw'r ardal wedi newid nemor ddim, gan eu bod yn byw ar gyrion y datblygiadau hyn.

Mae rhanbarth Macau wedi gweld newid anhygoel dros y degawd diwethaf. Gobeithiaf fy mod wedi adlewyrchu effeithiau amrywiol y diwydiant casino ar yr ardal ac adlewyrchu y trawsnewidiad a fu ar ran unigryw o Weriniaeth Pobl Tsieina.

ORIEL DELWEDDAU

KELLYMacau

KELLYMacau

Uwchlwythwyd
May 12, 2010
KELLYMacau-17-Cropped-134x74

KELLYMacau-17-Cropped-134x74

Uwchlwythwyd
May 12, 2010
KELLYMacau-3

KELLYMacau-3

Uwchlwythwyd
Apr 15, 2010
macau

macau

Uwchlwythwyd
Apr 15, 2010
KELLYMacau-1

KELLYMacau-1

Uwchlwythwyd
Apr 15, 2010
KELLYMacau-10

KELLYMacau-10

Uwchlwythwyd
Apr 15, 2010
KELLYMacau-11

KELLYMacau-11

Uwchlwythwyd
Apr 15, 2010
KELLYMacau-12

KELLYMacau-12

Uwchlwythwyd
Apr 15, 2010
KELLYMacau-13

KELLYMacau-13

Uwchlwythwyd
Apr 15, 2010
KELLYMacau-14

KELLYMacau-14

Uwchlwythwyd
Apr 15, 2010
KELLYMacau-15

KELLYMacau-15

Uwchlwythwyd
Apr 15, 2010
KELLYMacau-16

KELLYMacau-16

Uwchlwythwyd
Apr 15, 2010
KELLYMacau-17

KELLYMacau-17

Uwchlwythwyd
Apr 15, 2010
KELLYMacau-18

KELLYMacau-18

Uwchlwythwyd
Apr 15, 2010
KELLYMacau-19

KELLYMacau-19

Uwchlwythwyd
Apr 15, 2010
KELLYMacau-2

KELLYMacau-2

Uwchlwythwyd
Apr 15, 2010
KELLYMacau-20

KELLYMacau-20

Uwchlwythwyd
Apr 15, 2010
KELLYMacau-21

KELLYMacau-21

Uwchlwythwyd
Apr 15, 2010
KELLYMacau-22

KELLYMacau-22

Uwchlwythwyd
Apr 15, 2010
KELLYMacau-23

KELLYMacau-23

Uwchlwythwyd
Apr 15, 2010
KELLYMacau-24

KELLYMacau-24

Uwchlwythwyd
Apr 15, 2010
KELLYMacau-25

KELLYMacau-25

Uwchlwythwyd
Apr 15, 2010
KELLYMacau-3

KELLYMacau-3

Uwchlwythwyd
Apr 15, 2010
KELLYMacau-4

KELLYMacau-4

Uwchlwythwyd
Apr 15, 2010
KELLYMacau-5

KELLYMacau-5

Uwchlwythwyd
Apr 15, 2010
KELLYMacau-6

KELLYMacau-6

Uwchlwythwyd
Apr 15, 2010
KELLYMacau-7

KELLYMacau-7

Uwchlwythwyd
Apr 15, 2010
KELLYMacau-8

KELLYMacau-8

Uwchlwythwyd
Apr 15, 2010
KELLYMacau-9

KELLYMacau-9

Uwchlwythwyd
Apr 15, 2010

 

BYWGRAFFIAD

Ganed Stephen JB Kelly ar Hydref 18fed, 1983 yng Ngorllewin Cumbria, Lloegr. Treuliodd flynyddoedd cynnar ei blentyndod yn yr Affrig a'r Dwyrain Canol, cyn symud i Hong Kong lle bu'n byw am ddeng mlynedd. Dychwelodd Stephen i astudio ym Mhrydain, yn ennill Diploma Sylfaen mewn Ffotograffiaeth yn y London College of Communication ac yna radd mewn Ffotograffiaeth Ddogfen o Brifysgol Cymru, Casnewydd.

Mae Stephen wedi ennill nifer o wobrau am ei waith, yn cynnwys Ysgoloriaeth Deithio Goffa Gareth Jones, Gwobr Ffotograffiaeth David Hodge Yr Observer, Gwobr Reginald Salisbury Award a gwobr 'Gwnaed yn Tsieina' yng Ngŵyl Ffotograffiaeth Łódź yng Ngwlad Pwyl.

Mae gwaith ganddo wedi cael ei gyhoeddi mewn nifer o gylchgronau, yn cynnwys Cylchgronau'r Independent a'r Observer Magazine, D La Repubblica delle Donne, cylchgrawn IL a The FADER ymhlith eraill.

Ar hyn o bryd mae Stephen yn byw ac yn gweithio yn Hong Kong, Tsieina, lle mae'n cyfrannu at nifer o gyhoeddiadau blaenllaw ac yn dal i weithio ar brojectau hir dymor.