Gwybodaeth i Ddarpar Sefydliadau

Diffiniad o ddilysu

Dilysu yw'r broses y mae sefydliad dyfarnu yn ei defnyddio i farnu a yw rhaglen a ddatblygir ac a gyflenwir gan sefydliad neu gorff arall o ansawdd a safon digonol i arwain at ei ddyfarniad.

Mae ymgeiswyr llwyddiannus yn derbyn tystysgrif, diploma neu radd gan Brifysgol Cymru.

Pam fod y Brifysgol yn dilysu

Mae'r Brifysgol yn cynnig gwasanaeth dilysu rhyngwladol ar draws ffiniau pwnc drwy dynnu ar gronfa'r Brifysgol o arbenigedd a rhagoriaeth academaidd.

Mae ymgymryd â dilysu yn hwyluso datblygiad partneriaethau rhwng y Brifysgol a darparwyr addysg yn y DU a thramor sydd o fudd i'r ddwy ochr ac sy'n uchafu statws y Brifysgol fel Prifysgol genedlaethol sy'n cynnig dyfarniadau mewn cyd-destun rhyngwladol.

Pwy gaiff ymgeisio?

Mae'r hawl gan sefydliadau sydd ag enw da a'r awdurdod cyfreithiol angenrheidiol i gynnig rhaglenni AU i ymgeisio i gael eu dilysu gan Brifysgol Cymru. Bydd unrhyw geisiadau o'r fath yn agored i broses Fetio Cychwynnol a Diwydrwydd Dyladwy trylwyr yn unol â gweithdrefnau penodedig y Brifysgol. Gweler rhestr o bartneriaid cyfredol.

Ymagwedd y Brifysgol at ddilysu

Mae'r Brifysgol yn gweithio i sicrhau fod ei henw da a'i hunplygrwydd academaidd yn cael eu diogelu bob amser. Mae'n mynnu rhagoriaeth drwy ganolbwyntio ar drefniadau sicrhau ansawdd a gwerthuso ochr yn ochr ag ystyriaeth o briodoldeb cynnwys y cyrsiau, gan sicrhau dull ymarferol a hyblyg o weithio gyda phartneriaid.  

Sut i ymgeisio

Dylid cyfeirio ceisiadau at Gyfarwyddwr yr Uned Ddilysu a dylent gynnwys: a dylent gynnwys:

  •  amlinelliad o'ch cynnig
  •  gwybodaeth gefndir am eich Sefydliad
  •  dogfennau cwrs, os oes rhai ar gael.

Darllen pellach

Llawlyfr Ansawdd yr Uned Ddilysu
Canllaw i Ddarpar Sefydliadau