Introduction
‘Dilysu’ yw’r broses a ddefnyddir gan y Brifysgol, fel y corff dyfarnu, i farnu bod rhaglen a ddatblygir ac a gyflenwir gan sefydliad arall o safon ac ansawdd priodol i arwain at ei dyfarniad.
Gwneir y penderfyniad yn dilyn proses drylwyr o ddilysu a chymeradwyo, ac unwaith y caiff ei chymeradwyo, mae rhaglen yn ddarostyngedig i weithdrefnau sicrhau ansawdd y Bwrdd Dilysu.
Mae Gwasanaeth Dilysu Prifysgol Cymru wedi bod yn weithredol er 1974. Heddiw mae’n darparu rhaglenni gradd a diploma mewn 25 o ddisgyblaethau gwahanol mewn 30 o wledydd, gan alluogi i sefydliadau yn y DU a thramor gynnig gradd Prifysgol Cymru ar safon sy’n cyfateb i’r radd a gynigir yng Nghymru. Rydym yn falch iawn o’r perthnasau sydd wedi datblygu drwy’r drefn hon o ddilysu rhyngwladol llwyddiannus a chlodwiw. Mae’r Brifysgol yn rhoi gwerth mawr ar feithrin partneriaethau academaidd â sefydliadau mewn gwledydd eraill a’r cysylltiadau sy’n deillio ohonynt.
Nid y dewis hawdd yw llwyddo (a pharhau i lwyddo) i gael Prifysgol Cymru i ddilysu eich cyrsiau gradd – mae’n golygu llawer iawn o amser ymrwymedig o du eich sefydliad, staff y Brifysgol a’i haseswyr allanol. Ein cred ni yw bod yr amser a’r ymdrech yn llawn werth y drafferth. Dewch i wybod mwy >|