Wedi ei bostio ar 19 Chwefror 2010

Michael Sheen yn Seremoni Wobrwyo ddiwethaf Gwobr Dylan Thomas
Ar Ddydd Gŵyl Dewi (1 Mawrth 2010) bydd rhai o’r llenorion uchaf eu parch drwy’r byd yn dod at ei gilydd yn ninas Boston, Massachusetts, i lansio Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Cymru 2010.
Ymunodd Tessa Dahl, merch Roald, a chyn Fardd Cenedlaethol UDA Robert Pinsky, â chynrychiolwyr o rai o Brifysgolion mwya’r byd, gan gynnwys Harvard a MIT, i lansio’r Wobr, sy’n anrhydeddu’r llenor a’r bardd enwog o Gymru. Mae Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Cymru wedi’i sefydlu ei hun fel un o brif wobrau’r byd ar gyfer llenorion ifanc, gyda gwobr ariannol o £30,000, ac mae’r digwyddiad hwn yn sicrhau ei phresenoldeb rhyngwladol cynyddol fel un o’r gwobrau llenyddol uchaf ei pharch drwy’r byd.
Dywedodd Peter Stead, Cadeirydd Gwobr Dylan Thomas:
“Mae cwmpas Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Cymru yn fyd-eang, felly roeddem ni am atgyfnerthu ei statws rhyngwladol drwy lansio gwobr 2010 dramor. Rydym ni am i’r byd fod yn ymwybodol o’r diddordeb sydd yng Nghymru mewn hybu ysgrifennu newydd ac mae Gwobr Dylan Thomas yn cynnig ffocws ac ysbrydoliaeth i genhedlaeth newydd o lenorion drwy’r byd Saesneg ei iaith.
“Fodd bynnag, er gwaethaf natur fyd-eang y Wobr rydym ni’n parhau yn ymrwymedig i’n gwreiddiau Cymreig, a Dylan ei hun, a byddwn ni’n cynnal nifer o ddigwyddiadau allweddol yng Nghymru, gan gynnwys cyhoeddi’r panel dyfarnu yng Ngŵyl y Gelli ym mis Mehefin, ac wrth gwrs cyhoeddi enillydd Gwobr 2010 yn Abertawe.
“Mae’r Wobr yn anrhydeddu un o dalentau mwyaf ac ieuengaf yr 20fed ganrif, felly mae’r safon yn uchel tu hwnt. Rydym ni’n hyderus y bydd hon unwaith eto yn flwyddyn wych.”
Mae Gwobr Dylan Thomas yn anrhydeddu rhestr fer o lenorion am waith cyhoeddedig yn yr ystod eang o ffurfiau llenyddol yr oedd Dylan Thomas yn rhagori ynddynt, gan gynnwys barddoniaeth, rhyddiaith, drama ffuglen, casgliadau o straeon byr, nofelau, nofeligau, dramâu llwyfan a sgriptiau ffilm. Bydd gwahoddiad yn cael ei estyn i’r rhai a ddetholir i’r rhestr fer eleni i ddod i’r DU i gymryd rhan mewn nifer o ddigwyddiadau allweddol yn ymwneud â’r Wobr, yn ogystal â chymryd rhan mewn rhaglen o waith ymestyn addysgol - DylanED - gydag ysgolion, colegau a phrifysgolion, a yrrir ar y cyd gan brif noddwr y Wobr, Prifysgol Cymru.
Dywedodd yr Athro Marc Clement, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru:
“Mae Gwobr Dylan Thomas yn ei sefydlu ei hun fel un o asedau diwylliannol mawr Cymru. Mae cwmpas a dyheadau byd-eang y Wobr, ei phwyslais ar ieuenctid a meithrin rhagoriaeth yn gwbl gyson ag amcanion Prifysgol Cymru ac rydym ni’n falch i fod yn Brif Noddwr swyddogol.”
“Mae rhaglen addysgol DylanED yn hynod o bwysig i Brifysgol Cymru. Fel corff sy’n ymrwymedig i ddatblygiad ac addysg pobl ifanc, mae’n gweddu’n berffaith i ni.”
Cyfarwyddwr Gŵyl y Gelli, Peter Florence, unwaith eto fydd cadeirydd y panel dyfarnu, a gaiff ei gyhoeddi ym mis Mehefin. Rhaid i geisiadau am y Wobr gael eu cyflwyno gan gyhoeddwr, golygydd, asiant llenyddol, neu yn achos sgriptiau ffilm a dramâu llwyfan, cynhyrchydd, erbyn 30 Ebrill 2010. Rhaid i’r llenorion fod rhwng 18 a 30 mlwydd oed, a rhaid i’r gweithiau llenyddol fod wedi’u cyhoeddi o fewn y flwyddyn ddiwethaf i fod yn gymwys ar gyfer y gystadleuaeth.
I gael rhagor o wybodaeth am Wobr Dylan Thomas, a rheolau a chanllawiau llawn y gystadleuaeth, ewch i www.dylanthomasprize.com
Diwedd
I gael rhagor o wybodaeth, cysyllter â Natasha Fulford yn MGB PR
Ff: +44 (0)1792 460200
E: Natasha@mgbpr.com
I gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk/