Wedi ei bostio ar 1 Chwefror 2012

Welsh Ballads of the French Revolution gan Ffion Mair Jones
Ychydig sydd wedi ei ysgrifennu am ymateb Cymru i’r Chwyldro Ffrengig neu yn wir am y caneuon Cymraeg a ysbrydolwyd gan y digwyddiad gwleidyddol ysgytwol hwn.
Mae Welsh Ballads of the French Revolution (1793-1815) gan Dr Ffion Mair Jones, a gyhoeddir y mis hwn gan Wasg Prifysgol Cymru, yn un o’r cyhoeddiadau iaith Saesneg cyntaf ar faledi yn yr iaith Gymraeg a gyfansoddwyd yn ystod cyfnod pwysig iawn yn hanes gwareiddiad y Gorllewin.
Mae’r testunau’n ymateb i gyffroadau’r ddegawd Chwyldroadol a’i sgil, wrth i bobl ym Mhrydain ddechrau ymateb i farwolaethau treisgar teulu brenhinol Ffrainc, i’r perygl o ymosodiadau posib gan Ffrainc neu chwyldroadau efelychol ym Mhrydain, ac i’r her o fyddino ar raddfa mwy nag erioed o’r blaen.
Mae cyfieithiadau cyfochrog o’r testunau, ynghyd â nodiadau cyd-destunol helaeth, yn rhoi cyfle i ni weld casgliad o faledi a gyfansoddwyd gan lu o awduron anenwog am y tro cyntaf.
Dyma gyfrol felly sy’n tynnu sylw at Gymru, a’r faled fel genre, fel rhan o’r ymateb Prydeinig i’r Chwyldro yn Ffrainc
Mae Dr Ffion Mair Jones wedi bod yn Gymrawd Ymchwil yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru ers Hydref 2001, yn gweithio i ddechrau ar y prosiect ‘Iolo Morganwg a’r Traddodiad Rhamantaidd yng Nghymru’ ac ar y prosiect ‘Cymru a’r Chwyldro Ffrengig’ ar hyn o bryd.
/Gorffen
Rhyddheir: Chwefror 2012 ‘Welsh Ballads of the French Revolution 1793-1815’ gan Ffion Mair Jones £24.99 | CM| 9780708324615| 234x156 mm | 464tud 4 darlun a sgoriau cerddoriaeth
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â Gwasg Prifysgol Cymru neu i archebu, ewch i: www.uwp.co.uk|
Am wybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Cymru: t.barrettcymru.ac.uk| 02920 376991