Esgyniad a Chwymp Abertawe fel Prifddinas Cymru

Wedi ei bostio ar 13 Ionawr 2012
intelligenttown

Intelligent Town: An Urban History of Swansea, 1780-1855 gan Louise Miskell

Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru’n ymchwilio esgyniad hanesyddol Abertawe i fod yn ddinas oedd yn cael ei hystyried yn “fetropolis Cymru”, ac yn dadansoddi sut y collodd y ddinas y statws hwnnw.

Intelligent Town: An Urban History of Swansea, 1780-1855 gan Louise Miskell yw’r astudiaeth lawn cyntaf o ddatblygiad trefol Abertawe o ddiwedd y ddeunawfed ganrif i ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Mae’r llyfr yn trafod sut y llwyddodd Abertawe i ennill safle dylanwadol digymar fel canolfan drefol, a arweiniodd at gyfnod byr fel prifddinas Cymru, a sut y collodd y statws hwn wedyn yn wyneb datblygiad trefol cyflym mewn mannau eraill yng Nghymru.

Caiff hanes dyfod Abertawe i oed yn gynnar yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ei olrhain trwy ddilyn unigolion a sefydliadau.

O gyflogwyr diwydiannol cyfoethog i wyddonwyr bonheddig ac o sefydliadau bancio i neuaddau cynnull a llyfrgelloedd, cawn gipolwg ar Abertawe fel tref ffyniannus, lewyrchus a “deallus”.

Gyda’i chyfuniad o swyddogaethau fel tref mwyndoddi metel, cyrchfan ymdrochi, porthladd a chanolfan ddiwylliannol gellir dadlau bod ei chymeriad trefol yn unigryw.

Ond roedd profiad Abertawe o drefoli yn debyg iawn i drefi a dinasoedd ar hyd a lled Prydain.

Roedd sut i gynnal iechyd, trefn a diogelwch mewn amgylchedd oedd yn profi cynnydd demograffig a diwydiannol, a darparu’r cyfleusterau a sefydliadau oedd yn gweddu i le o bwysigrwydd cynyddol ar yr un pryd, yn gwestiwn hollbwysig i arweinwyr tref Abertawe a threfi eraill yn y cyfnod 1780-1855.

Mae’r degawdau hollbwysig hyn yn hanes trefol Abertawe, a fwriwyd i’r cysgod gan etifeddiaeth y mwg o’r gwaith copr a diffeithdra ôl-ddiwydiannol, yn rhoi golwg newydd pwysig ar hanes Cymru fodern ble, yn draddodiadol, y bu Caerdydd, Merthyr Tudful a hyd yn oed Bryste yn fwy adnabyddus fel trefi o ddylanwad ym mywyd trefol Cymru.

Mae Dr Louise Miskell yn ddarlithydd mewn hanes ym Mhrifysgol Abertawe a hi yw awdur Victorian Dundee.
/Gorffen

Nodiadau i Olygyddion:

9780708325100 Intelligent Town £24.99 (CM) Awdur: Louise Miskell

Dyfyniadau o adolygiadau

“This is a marvellous book, lucid, lively and well written which shifts the focus of Welsh history in the early nineteenth-century away from the well-ploughed path to Merthyr and engages with a civic place in which science and learning were valued. It asks new questions not simply about Swansea but also about the whole industrial and urban experience of Wales in the early nineteenth century.” – Neil Evans, Coleg Harlech

“…a consistently absorbing account of Swansea’s own mini-Enlightenment. It is a groundbreaking and challenging model for the further analysis of the formative influence of such elites elsewhere in Wales.”—Nigel Jenkins, Planet, Rhifyn 181

"This is an admirable 'urban history', beautifully written throughout, and fascinating because it turns the spotlight on ignored and neglected features of our history, the urban middle classes." - Prys Morgan, Morgannwg, Cyfrol L 2006

Am ragor o wybodaeth ynglŷn â Gwasg Prifysgol Cymru neu i archebu ewch i: www.uwp.co.uk|
 
Am wybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Cymru: t.barrettwales.ac.uk| 02920 376991

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori