Cyfrol newydd yn trafod Santes Wrswla a'i Chysylltiadau â Chymru

Wedi ei bostio ar 11 Tachwedd 2016
The Cult of St Ursula

Roedd Santes Wrswla yn un o’r seintiau rhyngwladol mwyaf poblogaidd yn Ewrop yn yr Oesoedd Canol, ond ychydig o bobl sy’n gwybod am ei chysylltiadau â Chymru a’r honiad ei bod wedi hwylio o Geredigion i Gwlen yn yr Almaen.

Mae cyhoeddiad newydd o’r enw St Ursula and the 11,000 Virgins yn edrych yn fanwl ar hanes a chwlt Santes Wrswla ac yn olrhain datblygiad ei chwedl gan egluro pam iddi fod mor boblogaidd mewn cynifer o wledydd a rhanbarthau gwahanol gan gynnwys Cymru.

Cyhoeddir y gyfrol gan Wasg Prifysgol Cymru ac fe’i golygwyd gan yr Athro Jane Cartwright, Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant, a chaiff yn cael ei lansio’n swyddogol ar gampws PCDDS yn Llambed, ddydd Mercher, Tachwedd 16 am 4pm.

Mae buchedd Wrswla yn chwedl epig sy’n adrodd hanes Wrswla, merch un o frenhinoedd y Brythoniaid, sy’n cytuno i briodi â thywysog paganaidd er mwyn achub teyrnas ei thad. Mae’n gohirio’r briodas er mwyn mynd ar bererindod i Rufain yng Nghwmni 11,000 o wyryfon. Caiff y wyryfon ei hyfforddi’n filwrol gan Wrswla a chyrchant i’r cefnfor. Llwydda Wrswla i droi ei dyweddi’n Gristion a merthryrir y santes a’i gwyryfon yng Nghwlen ar faes waedlyd. Yn y ddeuddegfed ganrif daethpwyd o hyd i fedd Rufeinig anferth a chredid mai creiriau Wrswla a’i chydymdeithion a geid yno.

Fe’i cysylltir ag eglwys Llangwyryfon yng Ngheredigion a chapeli megis Capel y Santesau a Chapel Betws Leucu a gysegrwyd ar enwau’i gwyryfon. Trafodir ei buchedd Gymraeg yn fanwl am y tro cyntaf yn y llyfr hwn sy’n taflu goleuni ar nifer o agweddau ar ei chwlt rhyngwladol, e.e. bucheddau canoloesol, delwau a chreiriau, cerddoriaeth ganoloesol ac yn y blaen. Teithiodd grŵp o ymchwilwyr adnabyddus i Gymru o’r Almaen, Ffrainc, America, Hwngari, Gwlad yr Iâ a Lloegr a gellir darllen ffrwyth eu hymchwil newydd yn y llyfr hwn.

Yn yr unfed ganrif ar bymtheg addaswyd Hystoria Gweryddon yr Almaen o’r Lladin i’r Gymraeg gan Huw Pennant a cheir yr hanes mewn un lawysgrif yn unig yn y Llyfrgell Genedlaethol, sef Peniarth 182. Roedd Huw Pennant, bardd, clerigwr ac ysgrifydd, yn awyddus i gynhyrchu fersiwn o’i chwedl a fyddai’n ddealladwy i Gymry Cymraeg.

Bydd y testun Cymraeg, a olygwyd ac a gyfieithwyd gan Jane Cartwright, ar gael ar wefan Seintiau yng Nghymru a ddarperir gan Lyfrgell Genedlaethol Cymru y flwyddyn nesaf. Lleolir y prosiect yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru a chaiff ei hariannu gan Gyngor Ymchwil y Celfyddydau a’r Dyniaethau (yr AHRC). Bydd gwefan Seintiau Cymru yn darparu tua 100 o destunau am seintiau lleol a rhyngwladol a bydd modd hefyd weld lluniau o’r llawysgrifau canoloesol gan gynnwys rhai o drysorau’r genedl megis Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfr Coch Talgarth.

Mae’r llyfr yn cynnwys nifer o benodau gan ysgolheigion eraill yng Nghymru, er enghraifft bucheddau Saesneg Canol gan William Marx o Brifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant a chysylltiadau Wrswla a’r urddau milwrol gan Helen Nicholson o Brifysgol Caerdydd.

“Mae Santes Wrswla’n enghraifft brin o santes ryngwladol boblogaidd a ddaeth yn un o’r brodorion,” dywedodd golygydd y gyfrol, yr Athro Cartwright.

“Roedd yn boblogaidd iawn yn Ewrop ac wrth i’r creiriau a ddarganfuwyd yng Nghwlen gael eu cludo i nifer o wledydd eraill, trosglwyddwyd y chwedl amdani hi a’i gwyryfon, gan esblygu ac addasu i amrywiol gyd-destunau wrth iddi ledaenu. Rwy’n ddiolchgar iawn i bawb a deithiodd i Gymru o gynifer o wledydd i drafod ac ailystyried cwlt y santes bwysig hon.”

Athro yn y Gymraeg ym Mhrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant yw Jane Cartwright. Mae’n Gyfarwyddwr y radd MA Astudiaethau Celtaidd yn y Brifysgol ac yn ymchwilydd ar brosiect ymchwil ar Seintiau Cymru yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd. Mae’n aelod o’r clwstwr ymchwil ar Fydoedd Hynafol: Pobl o’r Gorffennol yng Nghyfadran y Dyniaethau yn y Drindod Dewi Sant. Awdures nifer o gyfrolau ar fucheddau’r seintiau a hanes Cymru’r Oesoedd Canol yw Jane, er enghraifft Y Forwyn Fair, Santesau a Lleianod: Agweddau ar Wyryfdod a Diweirdeb yng Nghymru’r Oesoedd Canol (Caerdydd, 1999), Feminine Sanctity and Spirituality in Medieval Wales (Caerdydd, 2008) ac mae’n olygydd y cyfrolau Celtic Hagiography and Saints’ Cults (Caerdydd, 2003) a Mary Magdalene and her Sister Martha (Washington, 2013).

Os hoffech ddysgu mwy am y traddodiadau sy’n gysylltiedig â’r Santes Wrswla, y llyfr newydd a’r prosect Seintiau yng Nghymru, mae croeso i chi fynychu digwyddiad a gynhelir yn Llyfrgell y Sylfaenwyr campws Llambed, ddydd Mercher, Tachwedd 16eg am 4yh.

Os ydych yn bwriadu mynychu, gofynnwn i chi gysylltu â Lianne Parker o flaen llaw drwy ebostio l.parker@uwtsd.ac.uk neu drwy ffonio 01570 424951.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori