Wedi ei bostio ar 10 Chwefror 2012

King Copper gan Ronald Rees
King Copper, llyfr newydd gan Ronald Rees a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru, yw’r ymdriniaeth lawn gyntaf o effaith y diwydiant copr ar dde Cymru.
Trwy gydol y ddeunawfed ganrif, ac am ran helaeth o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd ymron holl gopr Prydain, a llawer o gopr y byd, yn cael ei gynhyrchu gan fwyndoddwyr ar arfordir Cymru, yn defnyddio glo a mwynau o Gernyw, Cuba a Chile.
Roedd yn grynhoad diwydiannol hynod a ddaeth â chyfoeth i Abertawe a’i threfi cyfagos.
Ond bu’n rhaid talu’n hallt am y ffyniant.
Mae mwynau copr yn ddifrifol o amhur ac, oherwydd yr holl doddiadau oedd yn angenrheidiol i buro a gwahanu’r metel oddi wrth y mwyn, crewyd mynyddoedd o slag, lludw o’r ffwrneisi a chymylau trwchus o fwg gwenwynig.
Roedd y mwg yn llawn sylffwr ac arsenig, yn lladd pob planhigyn ond y mwyaf gwydn, yn dinistrio cnydau ac weithiau’n lladd ac anablu da byw.
Oherwydd gwrthdaro rhwng ffermwyr cefn gwlad a phobl y trefi gwelwyd y Cymry Cymraeg yn troi yn erbyn y di-Gymraeg yn y trefi.
Daeth y gwrthdaro hwn i’w anterth gyda chyfres o’r hyn a elwid yn ‘dreialon mwg’ a welodd ffermwyr a thirfeddianwyr yn erlyn y cwmnïau copr am niweidio cnydau, tir pori ac anifeiliaid.
Anaml y gwelwyd rhaniad mor amlwg yng nghefn gwlad.
Roedd yr anghydfod yn canolbwyntio ar ddifrod i eiddo ond roedd hefyd yn codi cwestiynau ynglŷn ag iechyd cyhoeddus a cholli tirweddau hardd yr oedd pobl yn eu caru.
Cyn iddo ymddeol roedd Ronald Rees yn Athro Daearyddiaeth ym Mhrifysgol Saskatchewan, Canada.
/GORFFEN
Detholiadau o Adolygiadau:
“This is a most impressive book that provides a concise and lucid general account of the copper industry in south Wales . . . King Copper is a stimulating study grounded in careful scholarship and written in a lively, confident style. It throws much new light on a vital dimension of South Wales's industrial history and for this reason the book deserves to be widely read." -Welsh History Review
“. . . the story of King Copper is well documented in a new book of that name by Ronald Rees. The story he tells has remarkable parallels with the modern tale of the British nuclear industry: first a military motive, then official lies, followed by a cry that criticism jeopardises jobs and wealth.” – BBC History Magazine
(Clawr Meddal) ISBN-13: 978-0708324912 King Copper gan Ronald Rees, Cyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru (£18.99)
Am ragor o wybodaeth ynglŷn â Gwasg Prifysgol Cymru neu i archebu ewch i: www.uwp.co.uk|
Am wybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Cymru: t.barrettwales.ac.uk| 02920 376991