Wedi ei bostio ar 15 Mehefin 2010

Teledu Annibynnol yng Nghymru
Ers iddo gychwyn ym 1955, mae Teledu Annibynnol yng Nghymru (ITV), a ystyrir yn aml yn isel ei safon ac yn or-boblogaidd, wedi bod yng nghysgod y gorfforaeth fwy sefydledig, BBC Cymru. Fodd bynnag, nid yw’r cyfraniad y mae wedi’i wneud drwy greu rhaglenni arloesol mewn llu o fformatau – yn Gymraeg a Saesneg - a symud y gwasanaeth teledu yn ei flaen, wedi cael fawr o sylw na chydnabyddiaeth.
Mewn cyfrol newydd a gyhoeddir gan Wasg Prifysgol Cymru, dan y teitl ‘A History of Independent Television in Wales’, mae Dr Jamie Medhurst yn gobeithio trafod dylanwad a llwyddiannau ITV yn hanes y diwydiant darlledu yng Nghymru. Er gwaethaf y corff cynyddol o waith am y cyfryngau yng Nghymru, honna cyfrol Dr Medhurst mai ychydig iawn sydd wedi’i wneud ar hanes teledu masnachol yng Nghymru.
Yn y gyfrol, am y tro cyntaf ceir naratif hanesyddol manwl ynghyd â dadansoddiad beirniadol o ITV yng Nghymru, sydd wedi bod yn rym pwerus ym maes darlledu Prydain ers iddo gael ei lansio. O’i gymharu â’r BBC, mae’n gymharol ifanc; roedd ei dwf yn arafach na’r BBC ac ni chwblhawyd y rhwydwaith ar draws y DU tan 1962. Unwaith iddo ddechrau, aeth ITV at i i feithrin talent greadigol yn Gymraeg a Saesneg gan gynhyrchu rhaglenni oedd yn arloesol ac a newidiodd wyneb teledu yng Nghymru. Hefyd roedd yn sicrhau amrywiaeth o fewn y cyfryngau yng Nghymru.
Gan ganolbwyntio’n bennaf ar flynyddoedd allweddol y 1950au a’r 1960au, a chan dynnu ar ffynonellau archifol o Gymru a thu hwnt, mae’r gyfrol yn gosod hanes ITV o fewn y trafodaethau ehangach ar hunaniaeth genedlaethol, iaith a diwylliant yng Nghymru.
I grynhoi, mae ‘A History of Independent Television in Wales’ yn ddarn jig-so a fu cyn hyn ar goll yn hanes darlledu Prydain, ac mae’n ychwanegu at y corff cynyddol o lenyddiaeth sy’n trafod arwyddocâd y genedl a’r brwydrau ym maes darlledu ynglŷn â hunaniaeth genedlaethol sydd mor ganolog yng nghreadigaeth diwylliant yn yr ugeinfed ganrif a thu hwnt.
/Diwedd
Nodiadau i Olygyddion:
Mae’r awdur, Dr Jamie Medhurst yn Uwch Ddarlithydd mewn Astudiaethau Ffilm a Theledu ac yn Gyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu yn Adran Astudiaethau Theatr, Ffilm a Theledu Prifysgol Aberystwyth.
I gael rhagor o wybodaeth am y gyfrol hon neu unrhyw gyhoeddiadau eraill Gwasg Prifysgol Cymru: http://www.uwp.co.uk/|
I gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Cymru, ewch i: www.cymru.ac.uk|
Am wybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu Prifysgol Cymru: t.barrettcymru.ac.uk|