Wedi ei bostio ar 16 Mai 2011

Llyfrgell Gregynog
Bydd unrhyw un sy’n ymuno â chynllun aelodaeth flynyddol yn Neuadd Gregynog Prifysgol Cymru yn cael mynediad arbennig at lyfrgell gyfareddol, wedi’i lleoli o fewn yr adeilad cynadledda a digwyddiadau hanesyddol ger y Drenewydd.
Ar ôl cyfarfod cychwynnol gyda llyfrgellydd y Neuadd, bydd modd i aelodau Gregynog wneud cais am gerdyn ‘Darllenydd Ymweliadol’, fydd yn eu caniatáu i ymweld â’r llyfrgell i ddarllen ac i astudio.
Dywedodd Cyfarwyddwr Neuadd Gregynog, Karen Armstrong:
"Mae’r llyfrgell yn drysorfa o lyfrau a chylchgronau difyr ac amhrisiadwy, yn ymwneud yn arbennig â hanes, llenyddiaeth a diwylliant Cymru, yn y Gymraeg a’r Saesneg.”
Hefyd yng nghasgliadau’r llyfrgell ceir testunau sy’n ymwneud â’r cylch chwedlau Arthuraidd ym Mhrydain ac Ewrop, y celfyddydau, cynhyrchu llyfrau, argraffu, adeiladu a chyfrolau Gwyddeleg - sydd o ddiddordeb penodol i fyfyrwyr hanes a diwylliant Celtaidd.
Mae Gregynog bellach yn gweithio ar greu catalog digidol o gyfrolau’r llyfrgell, y bydd modd ei weld drwy’r wefan www.gregynog.cymru.ac.uk|
/Diwedd
Nodiadau i Olygyddion:
Cost y cynllun aelodaeth blynyddol yw £15 y pen a £25 i deulu o bedwar. Mae’r ffi hefyd yn cynnwys y tâl o £3 i ymweld â’r gerddi ffurfiol a gyflwynwyd ar 15 Ebrill.
Mae ffurflenni cais am aelodaeth ar gael o dderbynfa Neuadd Gregynog neu drwy ffonio: 01686 650224
I gael rhagor o wybodaeth am Neuadd Gregynog, ewch i www.gregynog.cymru.ac.uk|, neu am wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i www.cymru.ac.uk|
I gael gwybodaeth i’r Wasg a’r Cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu Prifysgol Cymru: t.barrettcymru.ac.uk| neu ffoniwch: 02920 376991