Wedi ei bostio ar 16 Gorffennaf 2010

Gregynog
Y thema eleni yn Neuadd Gregynog Prifysgol Cymru fu Gerddi Pleser. Addas felly yw bod BBC Radio 4 yn darlledu dwy bennod o’r rhaglen ‘Gardeners’ Question Time’ o erddi Gregynog, ar 16 Gorffennaf a 6 Awst.
Bydd y ffermwr a Chadeirydd y rhaglen, Eric Robson, ynghyd â’r panelwyr Chris Beardshaw, Matthew Biggs ac Anne Swithinbank ar y rhaglen hon.
Bydd y rhaglen gyntaf yn canolbwyntio ar gwestiynau’n delio gydag iechyd toriad o winwydden a gymerwyd o dŷ gwydr yng ngardd â mur o’i chwmpas Gregynnog – y math a enwir yn winwydden yr anialwch. Fel y bydd y panelwyr yn hysbysu’r gwrandawyr, byddai toriadau fel y rhain wedi’u storio’n wreiddiol mewn llestri gwydr gyda gwaelod llydan a gyddfau hir fel nad oedd y grawnwin yn cleisio. Mae nifer o enghreifftiau o’r rhain i’w gweld heddiw yn seleri helaeth y Neuadd.
Pwnc arall a drafodir ar y rhaglen fydd y gwaith adfer parhaus sydd yn digwydd yng ngerddi rhestredig Gradd 1 Gregynog a’r ystyriaethau sensitif ynghlwm â rheoli prosiect o’r fath.
Bydd yr ail ddarllediad (ar 6 Awst) yn canolbwyntio ar y gwaith i adfer yr ardd rhosynnau, a arferai fodoli rhwng bysedd y Llwyn Ywen ac a blannwyd yn yr 1890au. Mae Michael Murray, arbenigwr o David Austin Roses, yn cynorthwyo rheolwr Ystad Gregynog i ddylunio’r cynllun plannu; gyda’i gilydd maent yn mynd ar daith trwy’r gerddi i edrych ar y casgliad mawr o Rododendronau, gan fynd heibio’r wenynfa newydd yn y Glyn.
Cyn y Rhyfel Byd Cyntaf roedd 26 o arddwyr yng Ngregynog. Yn ôl un hen hanesyn, dyma a roddwyd mewn hysbyseb am arddwr yn y papur lleol: “Swydd am arddwr… tenor fyddai orau” - yn aml byddai aelodau o’r staff yn dewis ymuno â chôr Gregynog.
Yn ddiweddar disgrifiwyd y gerddi gan CADW fel ‘un o’r gerddi a’r parciau pwysicaf ym Mhowys, yn dyddio o 1500 o leiaf’, a chyfeiriodd Simon Jenkins yn ddiweddar at y Neuadd fel adeilad ‘cudd mewn coedwig ddiferol Gymreig’.’
Ym 1744 cynigiodd y pensaer tirwedd William Emes, un o ddynwaredwyr Capability Brown, welliannau i’r gerddi ac mae’r cynllun yn bodoli hyd heddiw; roedd yn cynnwys cadwyn o byllau ar y lawntiau, y cyfeiriwyd atynt yn annwyl unwaith fel ‘pyllau hwyaid Mr Blayney’.
Yn y cyfnod hwn roedd yr Ystad yn goediog iawn ac ym 1809 roedd yno 2,250 o goed derw, rhai ohonynt yn rhan o’r Goedwig Fawr heddiw. Mae hon bellach wedi’i dynodi’n Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig oherwydd y cen sydd yno, gyda sbesimenau dros 300 mlynedd oed. Tua 1800 dyfeisiwyd y stand o goed sydd union gyferbyn â’r Neuadd ac ychwanegwyd ato’n ddiweddarach trwy blannu’r hybrid rhododendron ‘Perl Binc’ a’r llwyn ywen euraid.
Mae gerddi Gregynog ar agor i ymwelwyr gyda chaffi yn y Cowrt yn darparu lluniaeth ysgafn. £2.50 yw cost parcio car ac mae hyn hefyd yn cynnwys tâl mynediad i’r gerddi sydd ar agor o 8am tan 8pm, neu o’r wawr hyd nes y bydd yn tywyllu yn y gaeaf.
/Diwedd
Am ragor o wybodaeth am Neuadd Gregynog a Phrifysgol Cymru ewch i www.wales.ac.uk|
Am wybodaeth y wasg a’r cyfryngau, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebiadau, Prifysgol Cymru: t.barrettwales.ac.uk|