Gregynog yn penodi pen-cogydd o'r Almaen

Wedi ei bostio ar 11 Rhagfyr 2009
Heiko Simmchen in the kitchen

Wrth benodi pen-cogydd o’r Almaen, Heiko Simmchen, i fod yn brif gogydd Neuadd Gregynog, canolfan gynadledda’r Brifysgol yn Nhregynon, ger Y Drenewydd, cafwyd addewid i ddefnyddio mwy o gynhwysion ffres, lleol. Mae Heiko ar hyn o bryd yn datblygu bwydlen dymhorol, hyblyg ar gyfer cynadleddau, ynghyd â phecynnau a archebwyd ymlaen llaw ar gyfer grwpiau; bydd y rhain yn cynnig seigiau megis selsig o gig carw o’r radd flaenaf a nionod rhost, tatws stwnsh a garlleg a jus gwin coch.

Dywedodd: "Fe ges fy nenu at y swydd hon gan y cyfleoedd gwych i ddatblygu’r bwyd sydd yma, yn y lleoliad hardd hwn. Mae yma gyfle gwych i roi fy stamp fy hun ar y bwyd.” Bellach, mae’n paratoi i benodi cynorthwyydd.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori