Waw ffactor Neuadd Gregynog yn denu rheolwr ystâd newydd

Wedi ei bostio ar 22 Chwefror 2010
Steve Griffiths

Steve Griffiths wrth ei waith yn Neuadd Gregynog

Yn ôl cyn reolwr ystâd Erddig, y plas sy’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ger Wrecsam, yr hyn a’i denodd i’w swydd newydd yng nghanolbarth Cymru oedd y ‘waw ffactor’.

Steve Griffiths, 45, yw rheolwr ystâd newydd Neuadd Gregynog yn Nhregynon ger y Drenewydd, ac mae’n dal i fethu credu ei lwc ac yntau wedi’i benodi i’r swydd yn y ganolfan gynadledda a digwyddiadau hanesyddol a hardd.

Bydd yn gyfrifol am gynnal a chadw’r neuadd drawiadol ddu a gwyn ynghyd â’r ystad 750 o erwau, sy’n cynnwys 250 o erwau o goetiroedd.

“Doeddwn i ddim yn credu’r hyn oeddwn i’n ei weld wrth yrru i fyny’r dreif i gael cyfweliad yn Neuadd Gregynog,” meddai. “Fe ges i gymaint o syndod nes i mi droi’n ôl a gyrru i fyny eto. Dyma yw’r gyfrinach fwyaf yng Nghymru.

“Fe gerddais i o gwmpas yr ystad ddoe am y tro cyntaf, gan ebychu a dweud ‘Waw’ wrth droi pob cornel. Ar ôl 11 mlynedd yn Erddig, lle’r oeddwn i’n rheoli ystâd 1,200 erw, roeddwn i’n awyddus i gael her newydd ac rwyf i wedi bod yn lwcus iawn i gael swydd mewn lle mor brydferth.

“Rwy’n gobeithio y bydd ymwelwyr â Neuadd Gregynog yn profi’r un wefr ag y cefais i ac yn gwerthfawrogi’r gerddi, y coetiroedd a’r parciau ysblennydd.”

Mae pwyslais cryf ar ddatblygu gerddi a rheoli coetiroedd yn ei rôl yn Neuadd Gregynog wrth i’r lleoliad anelu at ei sefydlu ei hun yn gyrchfan bwysig i ymwelwyr.

Y tu allan i’w waith, mae Mr Griffiths hefyd yn adnabyddus ym myd ceffylau, ar ôl ennill y drydedd wobr yn y gystadleuaeth gyrru cerbyd genedlaethol ddwy flynedd yn ôl. Daw ei ddiddordeb mewn ceffylau gan ei dad, Fred, sy’n ffermio yn Isycoed, ger Wrecsam.

Disgrifiodd Karen Armstrong, rheolwr Neuadd Gregynog y penodiad fel un allweddol yn natblygiad y cynlluniau cyffrous ar gyfer y safle.

Mae Mr Griffiths yn ymuno ar gyfnod cyffrous yn esblygiad Neuadd Gregynog, sydd â chynllun i agor caffi yn y cwrt yn arddull Egon Ronay.

Mae Miss Armstrong hefyd yn ymgeisio am achrediad amgueddfa ar gyfer y safle ac mae’n awyddus i ymchwilio i’r potensial ar gyfer system wresogi coed gynaliadwy a chyflenwad trydan hydro o Lyn Gwgia gerllaw.

Ymysg y cynlluniau eraill mae codi ymwybyddiaeth amgylcheddol ar yr ystâd, lle mae Ysgol Coedwig eisoes wedi’i sefydlu a datblygu gardd furiog fel canolfan addysgu organig i bobl ifanc ag anawsterau dysgu.

 Diwedd

 I gael rhagor o wybodaeth i’r wasg, cysyllter naill ai â Karen Armstrong, rheolwr Neuadd Gregynog ar 01686 650224 neu Duncan Foulkes, ymgynghorydd cysylltiadau cyhoeddus ar 01686 650818.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori