Gregynog i'w chipio'n ol i'r 1940au yr haf hwn

Wedi ei bostio ar 5 Mai 2011
AMidsummerNightsDreamimage

A Midsummer's Night Dream

Am un diwrnod yr haf hwn, bydd ymwelwyr â Neuadd Gregynog Prifysgol Cymru yn cael eu hebrwng yn ôl i’r 1940au.

Bydd cerddoriaeth ‘swing’ Glen Miller a Vera Lynn o gyfnod y rhyfel yn darparu cefnlen i arddangosfa a noson gerddorol 1940au yng Ngregynog, gyda pherfformiad gan The Squadronaires ar 28 Awst. Yn yr arddangosfa ceir sgwrs prynhawn â thema 1940au gan gasglwr gemwaith a dillad isaf y cyfnod. Un yn unig o gyfres o ddigwyddiadau arbennig yw hwn a gynllunnir eleni i godi proffil y neuadd ddu a gwyn hanesyddol a’i thiroedd.

Dywedodd Cyfarwyddwr Gregynog, Karen Armstrong:

“Mae’r 1940au yn gyfnod o hanes Gregynog nad yw wedi’i ymchwilio’n fanwl eto. Roedd y neuadd yn gartref gwella i’r Groes Goch yn ystod yr Ail Ryfel Byd ac mae llawer o hanesion i’w hadrodd am unigolion oedd yma.

“Mae rhai o’r sylwadau gan filwyr oedd yn gwella yma yn hyfryd a hefyd ceir stori drasig am un o’r nyrsys a’i lladdodd ei hun drwy neidio o ffenest ar y llawr cyntaf ar ôl clywed am farwolaeth ei chariad.”

Ymysg y digwyddiadau eraill sydd ar y gweill eleni mae ‘Noson gyda Mr Puccini’ a berfformir gan Opera Canolbarth Cymru ar 17 Gorffennaf, perfformiad cwmni Chapterhouse Theatre o ‘A Midsummer Night’s Dream’ gan Shakespeare ar 24 Awst, a chinio a helfa ysbrydion Calan Gaeaf gyda grwp Paranormal Canolbarth Cymru ar 31 Hydref.

Hefyd yn Neuadd Gregynog cynhelir ffair briodas ar 8 Mai; cystadleuaeth Cerddor Ifanc Gregynog, a gynhelir ar 4 Mehefin; Gŵyl enwog Gregynog, rhwng 17 Mehefin a 3 Gorffennaf, a’r banc roc lleol poblogaidd Up all Nite, sy’n dychwelyd i roi cyngerdd ar 3 Gorffennaf.

Mae mis Rhagfyr yn argoeli’n fis prysur iawn. Bydd y mis yn dechrau â chyngerdd Nadolig gan Gyfeillion Cerddorion Ifanc Gregynog ar 4 Rhagfyr; cerddoriaeth y Nadolig gan y Guilsfield Singers ar 11 Rhagfyr; perfformiadau o ‘A Christmas Carol’ a ‘Cranford’ gan Chapterhouse Theatre ar 18 a 19 Rhagfyr, a bydd ogof Sion Corn yn agor ar 17 ac 18 Rhagfyr.

Mae gerddi’r Ystad, sy’n atynfa bwysig, hefyd yn chwarae rhan fawr yn rhaglen yr haf. Mae cynlluniau i gynnal Gŵyl Gardd ar 5 Mehefin; noson o gofnodi gwyfynnod canol haf gyda Peter Williams ar 13 Awst a chynhelir Sioe Lysiau Enfawr ar 11 Medi.

Bydd Ystad Gregynog hefyd yn croesawu aelodau o’r Gymdeithas Gyrru Cerbydau Prydeinig ar 18 Medi, rali hen dractorau ar 29 Mai a rali ceir clasurol gyda Lagonda Rapiers o’r 1930au ar 3 Gorffennaf.

Ar Sul cyntaf bob mis, caiff ymwelwyr eu croesawu am daith a sgwrs am hanes Neuadd Gregynog.

Mae’r gerddi’n addo bod yn gyforiog o liwiau y gwanwyn hwn wrth i 22,000 o fylbiau a 400 o rosod flodeuo ar wahanol adegau, gan gynnwys yng nghilfachau’r gwrych ywen enwog yn yr ardd isel.

I archebu tocynnau neu gael rhagor o wybodaeth cysylltwch â swyddfa docynnau Gregynog; Ffôn: 01686 650224 neu ebost gregynogcymru.ac.uk|. Edrychwch ar y wefan www.gregynog.cymru.ac.uk| am y newyddion diweddaraf.

/Diwedd

 I gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu Prifysgol Cymru: t.barrettcymru.ac.uk|

 

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori