Wedi ei bostio ar 29 Mehefin 2010

(C-D) Carmel Barry o Taste of Enterprise, CEO Jamie Watkins o RUMM Ltd a Richard Turner of the Academi Fyd-Eang (Prifysgol Cymru)
Gyda Phrifysgol Cymru yn brif noddwr, mae Gwobrau Arloesi Blaenau’r Cymoedd wedi cydnabod pedwar cwmni sydd wedi’u lleoli yn y cymoedd am eu hymagwedd arloesol a mentrus at fusnes. Amcan y digwyddiad yw arddangos a dathlu arloesi mewn busnes ym mwrdeistrefi Blaenau Gwent, Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Thorfaen.
Enillydd y categori Masnachwr Unigol Mwyaf Arloesol yw School of Life o Abercynon, sydd yn sefydliad sy’n cyflwyno syniadau defnyddiol gan ddefnyddio hiwmor. Eu dull unigryw yw defnyddio cyfuniad o gomedi ‘stand-up’, amlgyfryngau a cherddoriaeth wreiddiol i gyfathrebu sgiliau bywyd pwysig i ddisgyblion ysgolion uwchradd a cholegau chweched dosbarth drwy Gymru a Lloegr.
Mae Telecentre a Business School wedi’i leoli yn y Porth a dyma enillydd y Wobr Menter Gymdeithasol Fwyaf Arloesol. Mae’r cwmni’n helpu pobl sy’n ddi-waith ac yn economaidd anweithredol i ddychwelyd i’r gwaith drwy ddarparu gwasanaethau hyfforddi, cynlluniau datblygu personol a sgiliau sylfaenol gan annog gweithgaredd entrepreneuraidd. Maent hefyd wedi creu magwrfa busnes i fentrau cymdeithasol er mwyn cefnogi busnesau newydd a rhai sy’n tyfu.
RUMM (Remote Utility Monitoring and Management) Ltd o Gaerffili enillodd y Busnes Mwyaf Arloesol sydd â llai na 20 o gyflogeion, ac mae’n sefydliad sydd â’r nod o warchod yr amgylchedd a lleihau costau. Gwneir hyn drwy ddefnyddio technoleg arloesol a methodoleg brofedig i leihau allyriadau carbon, cyflawni arbedion mawr i economïau lleol a lleihau’r effaith ar yr amgylchedd.
Mae cwmni William Medical Supplies wedi’ leoli ar ystâd ddiwydiannol Maerdy, Rhymni, ac yn brif ddarparwr cyflenwadau a gwasanaethau meddygol i farchnad gofal iechyd y DU. Y cwmni hwn enillodd y Busnes Mwyaf Arloesol sydd â thros 20 o gyflogeion, ac mae’n cyflenwi cyfarpar, deunydd fferyllol ac amrywiaeth o wasanaethau i ddarparwyr Gofal Sylfaenol megis ysbytai, meddygfeydd teulu ac ymddiriedolaethau GIG ar draws y DU.
Cynhaliwyd seremoni ac arddangosfa fusnes eleni, a drefnwyd gan Raglen Arloesi Blaenau’r Cymoedd yng Nghlwb Golff, Gwesty a Spa Bryn Meadows, gyda thros 200 o westeion yn bresennol.
Mae Gwobrau Arloesi Blaenau’r Cymoedd yn cydnabod yr arloesi a menter busnes gorau, ac yn amlygu gwir dalent masnachol a busnes yn yr ardal.
Mae’r Gwobrwyon ar agor i unrhyw fusnes, gan gynnwys mentrau cymdeithasol, o fewn rhanbarth Blaenau’r Cymoedd ac unrhyw fusnes ym mwrdeistrefi Blaenau Gwent, Caerffili, Rhondda Cynon Taf, Merthyr Tudful a Thorfaen sy’n gallu dangos effaith sylweddol ar Flaenau’r Cymoedd neu gyswllt â’r ardal yn ogystal â thu hwnt.
Caiff y Rhaglen ei hariannu’n bennaf gan Lywodraeth Cynulliad Cymru ac mae’n rhaglen ymarferol a chreadigol o gefnogaeth gan bobl fusnes i bobl busnes.
Dywedodd Phil Burkhard, rheolwr y Rhaglen: “Gyda’r gwobrwyon yn eu pedwaredd flwyddyn bellach, mae’n gyfle i anrhydeddu’r busnesau mwyaf arloesol yn y rhanbarth sy’n gallu dangos sut mae creadigrwydd ac arloesi wedi gwneud gwahaniaeth i’w busnes, eu gweithlu, eu cwsmeriaid, cymunedau neu’r amgylchedd.
“Dyma’r flwyddyn fwyaf llwyddiannus eto, gyda thros 57 yn ymgeisio. Unwaith eto rydym ni wedi gweld tystiolaeth fod busnesau yn wirioneddol gofleidio arloesi yn rhanbarth Blaenau’r Cymoedd a defnyddio hyn i sicrhau gwir lwyddiant i’w cwmnïau. Mae’r holl ymgeiswyr am Wobrau wedi dod yn aelodau awtomatig o’r Clwb Troi Pennau (rhwydwaith busnes rhanbarthol y Rhaglen) sydd ag aelodau sy’n denu sylw cadarnhaol i’r rhanbarth.”
Noddwyd digwyddiad 2010 gan Academi Fyd-Eang Prifysgol Cymru a noddwyr y Gwobrau yw BT, HSBC, Capital Law, Siambr Fasnach De Cymru a FS4B.
Dywedodd Richard Turner o Academi Fyd-Eang Prifysgol Cymru: “Mae’r lefel o greadigrwydd ac arloesi a welir yn ein busnesau llwyddiannus yn cynyddu bob blwyddyn ers i mi fod yn beirniadu’r gwobrwyon hyn. Mae hyn yn tanlinellu’r ffaith fod rhanbarth Blaenau’r Cymoedd yn tyfu’n fwy arloesol ac yn fwy cystadleuol ac mae hynny i raddau helaeth oherwydd gwaith Rhaglen Arloesi Blaenau’r Cymoedd a mentrau eraill megis Ysgoloriaethau Arloesi Tywysog
Cymru.”
/DIWEDD
Nodiadau i Olygyddion
Mae Rhaglen Arloesi Blaenau’r Cymoedd bellach yn ei thrydydd cam. Dros y ddwy flynedd ddiwethaf helpodd ail gam y Rhaglen 175 o fusnesau i gyflawni dros £1 miliwn, yn bennaf mewn busnes ychwanegol, ac mae’n cyfrannu at ddiogelu 539 o swyddi (
www.hovip.org.uk|).
Ariennir Rhaglen Arloesi Blaenau’r Cymoedd yn rhannol gan LlCC ac fe’i cynhelir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful ar ran bwrdeistrefi Blaenau Gwent, Caerffili, Merthyr Tudful a Thorfaen.
Dau brif amcan Rhaglen Arloesi Blaenau’r Cymoedd yw:
3) Cynyddu gallu arloesi pob busnes (gan gynnwys mentrau cymdeithasol) yn y pum bwrdeistref h.y. eu helpu i oroesi a ffynnu.
4) Codi proffil busnes y rhanbarth.
Mae Rhaglen Arloesi Blaenau’r Cymoedd newydd ennill Menter Cefnogi Arloesedd y Flwyddyn y DU, gyda record o 150 o ymgeiswyr ledled y DU, yn y gwobrwyon a drefnir gan y Cyngor Sgiliau Sector dros Arloesi.
Cynhaliwyd Gwobrau Arloesi cyntaf Blaenau’r Cymoedd sef prif ddigwyddiad Rhaglen Arloesi Blaenau’r Cymoedd, yn 2007.
Caption: (chwith-dde) Richard Turner o Academi Fyd-Eang Prifysgol Cymru, enillydd categori Chris Matthewman o School of Life a Phil Burkhard o Raglen Arloesi Blaenau’r Cymoedd yn trafod yr ymagwedd arloesol at fusnes a fabwysiadwyd gan gynifer o gwmnïau yn ardal y Cymoedd.
I gael rhagor o wybodaeth neu gyfweliad, cysyllter ag Eryl W. Jones, Equinox Communications ar:
Ffôn: 029 2076 4100
Symudol: 07702 359495
Ebost:
erylequinox-pr.co.uk|
I gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i:
www.cymru.ac.uk|
I gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysyllter â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu Prifysgol Cymru:
t.barrettcymru.ac.uk|