Cyhoeddi prosiect ymchwil pwysig gyda Pingar a Phrifysgol Waikato

Wedi ei bostio ar 12 Tachwedd 2009

pingar-logo

Cyhoeddwyd cydweithio newydd rhwng Prifysgol Cymru, Pingar - y cwmni meddalwedd o Seland Newydd sydd wedi datblygu'r genhedlaeth nesaf o ran datrysiad chwilio 'deallus' - a Phrifysgol Waikato yn Seland Newydd mewn derbyniad preifat a gynhaliwyd ar gyfer Pingar yn Nhŷ'r Cyffredin ddoe.

Bydd rhaglen Ysgoloriaethau Arloesi Tywysog Cymru (PoWIS) a reolir gan Brifysgol Cymru yn darparu cyllid ar gyfer cyflogi myfyriwr ôl-raddedig o Brifysgol Waikato i weithio fel myfyriwr PhD ar leoliad ar brosiect ymchwil a datblygu mawr gyda Pingar yn ei ganolfan yn Abertawe am hyd at dair blynedd. Nod rhaglen PoWIS yw gosod ymchwilwyr doethurol mewn busnesau cyfranogol i helpu i ddatblygu eu capasiti arloesi. Caiff hyn ei gyflawni drwy sicrhau fod pob ysgolhaig yn ymgymryd â phrosiectau ymchwil allweddol, gyda chefnogaeth goruchwylwyr academaidd cenedlaethol a rhyngwladol, i gefnogi potensial arloesi'r busnesau detholedig.

Dywedodd cyd-sylfaenydd Pingar, John Beer, fod y cyhoeddiad hwn am ymchwil cydweithredol yn rhan bwysig o ddatblygu parhaus gallu chwilio electronig Pingar, a gafodd ymateb ysgubol pan gafodd ei lansio yng Nghynhadledd Microsoft SharePoint: “Mae ymrwymiad parhaus Pingar i wella defnyddioldeb algorithm ei beiriant chwilio yn golygu y bydd yn chwilio'n rhagweithiol am fentrau ymchwil a datblygu cydweithredol fel hon gyda Phrifysgol Cymru," meddai Beer. Esboniodd y gallai'r cynnyrch gynyddu cynhyrchedd gweithwyr yn y gofod chwilio, gan gyflenwi ansawdd chwilio gwell mewn eiliadau, fyddai'n arwain at arbedion cost sylweddol i'r fenter.”

Dywedodd yr Athro Marc Clement, Is-Ganghellor Prifysgol Cymru: “Rydym ni'n falch iawn i gydweithio gyda Pingar a Phrifysgol Waikato i ddatblygu ymchwil ychwanegol a fydd yn ehangu technoleg y cwmni mewn cymhwysiad blaenllaw o safon fyd-eang. Mae hwn yn brosiect ymchwil rhagorol ar gyfer un o'n hysgolheigion PoWIS newydd, gan ei fod yn cydweddu mor dda â diben y rhaglen."

Trefnwyd y lansiad yn Nhŷ'r Cyffredin gan Derek Wyatt AS, ac roedd aelodau allweddol o Lywodraeth y DU a'r Wrthblaid yno. Roedd Cynrychiolydd Masnach Seland Newydd yn y DU, Michelle Templar a swyddogion eraill o Uchel Gomisiwn Seland Newydd yno hefyd.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori