Wedi ei bostio ar 29 Gorffennaf 2010

SmartKem Ltd
Mae’n bleser gennym gyhoeddi bod SmartKem Cyf, cwmni sy’n cymryd rhan yng nghynllun Ysgoloriaethau Arloesi Tywysog Cymru (YATC) Academi Fyd-Eang Prifysgol Cymru, wedi ennill Aur ynn Ngwobrau Sefydlol ‘Y Gorau o Arloesi Prydain’ yn Venturefest 2010.
Heddiw, cyhoeddodd SmartKem Cyf, sy’n datblygu defnyddiau a phrosesau gwreiddio a gwahanol a all greu cydrannau meicroelectronig eglurdeb uchel yn uniongyrchol ar ddeunydd hyblyg tenau, i wobr aur gael ei dyfarnu iddynt yn y Gwobrau ‘Y Gorau o Arloesi Prydain’ yn Venturefest 2010. Mae’r wobr bwysig hon yn cydnabod SmartKem fel un o fusnesau technoleg mwyaf cyffrous y flwyddyn am ei datrysiad arloesol newydd o fewn maes electroneg argraffiedig.
Mae Gwobrau ‘Y Gorau o Arloesi Prydain 2010’ yn rhan o ddathliad blynyddol Venturefest o dechnoleg, sy’n dwyn sylw at dri o’r busnesau technoleg mwyaf cyffrous yn y Deynas Unedig ac yn eu cyflwyno i fuddsoddwyr, arloeswyr ac entrepreneuriaid mwyaf blaenllaw’r wlad, yn ystod y digwyddiad undydd ym mis Mehefin 2010. Trwy roi llwyfan i rai o’r cwmnïau gwyddoniaeth newydd mwyaf blaengar yn y wlad, mae Venturefest 2010 yn sbarduno buddsoddiad yn economi technoleg uwch y DU. Dewisodd panel beirniadu Yr Arddangosfa Arloesi SmartKem o restr fer o 10 busnes technoleg uwch ifanc, o blith cwmnïau cychwynnol mwyaf arloesol y DU yn ystod 2010.
Wedi ei lleoli yn Sir Ddinbych, Cymru, menter dechnoleg uchel newydd yw SmartKem, sy’n cyflenwi a chynhyrchu ystod wreiddiol o foleciwlau dargludo organig gyda phrosesau sy’n gymharus ag electronig argraffiedig. Mae’r cwmni hefyd yn datblygu proses laser uwch gywirdeb ar gyfer cyflenwi defnyddiau i ddyfeisiadau meicroelectronig bychan megis transistorau a synwyryddion.
Dywedodd Steve Kelly, Prif Swyddog Gweithredol SmartKem:
“Rydym wrth ein boddau bod SmartKem wedi cael ei gydnabol fel busnes technoleg newydd mwyaf cyffrous 2010. Bydd ennill y wobr bwysig hon o gymorth i hybu ein proffil yn y farchnad electroneg argraffiedig ac yn cynyddu’n fwyfwy y sylw a gawn er mwyn codi mwy o gyllid soddgyfrannol. Wrthi’n cymryd camau cyntaf yr ymchwil a’r datblygu yr ydym o hyd ac mae’n gyffrous iawn cael ein gwobrwyo am gymryd camau cadarnhaol ymlaen ym maes argraffu ac electroneg hyblyg.’’
Menter arloesol gwerth £11.4miliwn sydd ym mlaen y gad yw YATC, gan ddod â’r sector breifat yng Nghymru ac addysg uwch ynghyd gyda graddedigion disglair ledled y byd. Ar hyn o bryd, mae SmartKem yn elwa o brofiad helaeth ysgolhaig YATC, Dr. Robert Holmes, a fydd yn gweithio o fewn y cwmni am gyfnod o dair blynedd. Nid yn unig y mae’r cwmni’n derbyn cefnogaeth ymchwil a datblygu, mae hefyd yn cael agoriad i nifer o fuddion eraill hefyd, megis rhaglenni arloesi ac entrepreuneriaeth a redir gan Academi Fyd-Eang Prifysgol Cymru a chyrsiau a redir gan rai o feddylwyr mawr y byd, megis Ysgol MIT Sloan. Mae pob cwmni neu ysgolhaig YATC hefyd yn rhan o rwydwaith yr Academi Fyd-Eang sy’n darparu aelodaeth rad ac am ddim i Raglen Cyswllt Diwydiannol MIT, adnodd gwerthfawr i fusnesau, sydd fel arfer yn costio $60k y flwyddyn.
/Diwedd
Am SmartKem
Menter dechnoleg ddwys newydd yw SmartKem, yn ymateb i anghenion y diwydiant electroneg printiedig trwy ddatblygu proses arloesol sy’n creu cydrannau meicroelectronig eglurdeb uchel yn uniongyrchol ar ddefnyddiau hyblyg tenau. Wedi ei leoli yn y ganolfan safon byd, Optic Technium, yng ngogledd Cymru, prif nod SmartKem yw i ymateb i’r galw am electroneg cost isel, ynni isel a bychanedig. Bydd proses SmartKem yn cymryd lle ffotolithograffi traddodiadol a thechnegau argraffu safonol ill dau, trwy greu dyfeisiadau electroneg hyblyg.
Am fwy o wybodaeth i’r wasg, cysylltwch â: Celine Callender, The Scott Partnership, 1 Whiteside, Station Road, Holmes Chapel, Swydd Gaer, Y Deyrnas Unedig Ffôn: + 44 (0)1477 539539 Facs: +44 (0)1477 539540 E-bost: smartkemscottpr.com|
Mae Academi Fyd-Eang Prifysgol Cymru wedi cynllunio YATC yn benodol i ddod â’r sector breifat a graddedigion ifanc disglair o ledled y byd ynghyd gydag arbenigedd academaidd o o fewn Cymru a thros y byd.
Mae gan YATC, a lansiwyd gan EUB Tywysog Cymru yn 2009, ac a gyllidir yn rhannol gan y Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd a buddsoddiad gan Brifysgol Cymru ei hun, gyllid o £11.4M i’w ddefnyddio i annog cwmnïau Cymreig i ymgymryd â phrosiectau Ymchwil & Datblygu arloesol ar y cyd.
Am fwy o wybodaeth am yr Academi Fyd-Eang, e-bostiwch: global.academycymru.ac.uk| neu ewch at: www.globalacademy.org.uk/|
Am fwy o wybodaeth am Brifysgol Cymru, ewch at: www.cymru.ac.uk|
Am wybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Cymru: t.barrettcymru.ac.uk|