Yr Academi Fyd-Eang yn lansio yng Ngogledd Cymru

Wedi ei bostio ar 16 Gorffennaf 2010
1GlobalAcademyNorthWalesLaunch12July2010CaerarfonGaleri

(Chwith i'r dde) Pennaeth Smartkem Steve Kelly, Alun Ffred Jones AM, POWIS Scholar Robert Holmes, UW Is-Gadeirydd Athro Marc Clement a Gadeirydd PC Huw Thomas (Foto: Richie Turner)

Gan barhau i ledaenu arloesi drwy’r wlad, mae Academi Fyd-Eang Prifysgol Cymru bellach ar agor yng Ngogledd Cymru.

Hefyd yn bresennol yn y lansio bydd cynrychiolwyr o ddau gwmni o ogledd Cymru – SmartKem Ltd a Chloddfeydd Llechi Llechwedd. Mae’r ddau gwmni eisoes yn elwa yn sgil eu cyfranogiad yn un o fentrau pwysicaf yr Academi Fyd-Eang, sef Ysgoloriaethau Arloesi Tywysog Cymru (POWIS,) menter arloesol werth £11.4miliwn sy’n dod â’r sector breifat yng Nghymru ac addysg uwch at ei gilydd ynghyd â graddedigion ifanc disglair o bedwar ban byd.

Mae ysgolheigion POWIS wedi’u lleoli yn y ddau gwmni ac yn gweithio i gynyddu gallu arloesi’r cwmnïau.

Dywedodd Steve Kelly Prif Weithredwr SmartKem Ltd:

“Mae mentrau fel POWIS yn werthfawr i fentrau bach a chanolig (BBaCh) yn y sector technoleg. I SmartKem, rhan o atyniad y cynllun yn unig oedd dod o hyd i ysgolhaig addas. Mantais arall oedd y system o gefnogaeth a ddarperir gan y Brifysgol gyfranogol a thîm ehangach POWIS.”

Yng ngoleuni’r hinsawdd economaidd sydd yn dal i fod yn fregus, mae gan fenter POWIS y potensial i chwarae rôl fawr yn cefnogi BBaChau yn eu blynyddoedd cynnar.

Nid yn unig mae cwmnïau POWIS yn derbyn cymorth ymchwil a datblygu, ond hefyd cânt fynediad at nifer o fanteision eraill fel y rhaglenni arloesi ac entrepreneuriaeth preswyl sy’n cael eu rhedeg gan Academi Fyd-Eang Prifysgol Cymru a chyrsiau a drefnir gan rai o brif feddylwyr y byd megis Ysgol Sloan MIT. Mae pob ysgolhaig neu gwmni POWIS hefyd yn rhan o rwydwaith arloesi’r Academi Fyd-Eang sy’n darparu aelodaeth am ddim i Raglen Cyswllt Diwydiant MIT, sy’n adnodd gwerthfawr i fusnesau ac sydd fel arfer yn costio $60k y flwyddyn.

Dywedodd y Gweinidog Treftadaeth, Alun Ffred Jones, AC:

“Mae’r Academi Fyd-Eang ynghyd â rhaglen POWIS yn enghraifft unigryw o bartneriaeth rhwng sefydliadau academaidd sydd ag enw da yn fyd-eang a’r sector breifat yng Nghymru sy’n gyrru arloesi yn economi Cymru. Mae datblygu cynllun POWIS yn arbennig o amserol yng nghyd-destun y pwyslais ar ymchwil a datblygu yn y sector breifat yn Rhaglen Adfywio Economaidd Llywodraeth Cynulliad Cymru.”

Ychwanegodd Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, yr Athro Marc Clement:

"Mae Prifysgol Cymru yn falch iawn i agor swyddfa'r Academi Fyd-Eang yng Ngogledd Cymru, sydd yn ychwanegiad i'w swyddfeydd presennol yn Abertawe a Chaerdydd. Mae yna ddau brosiect POWIS cyffrous iawn eisioes ar y gweill yng Ngogledd Cymru a bydd y Cymrawd Arloesi sy'n gweithio yma yng Nghaernarfon yn canolbwyntio ar ddatblygu ymchwil perthnasol a rhaglenni datblygu gyda mwy o fusnesau yn yr ardal. Nawr bod Ysgolhaig yr Academi Fyd-Eang wedi'i leoli yma, edrychwn ymlaen i osod mwy o ysgolheigion POWIS yn y Gogledd."  

/Diwedd

Nodiadau i Olygyddion:

Cwmni teuluol a sefydlwyd ym 1836 yw Cloddfeydd Llechi Llechwedd ym Mlaenau Ffestiniog sy’n gobeithio datblygu model busnes newydd sy’n economaidd ac amgylcheddol gynaliadwy i farchnata a chludo gwastraff llechi fel deunydd agreg eilaidd. Y nod yw gwerthu gwastraff llechi fel cynnyrch adeiladu ansawdd uchel, sy’n arbennig o addas i’w ddefnyddio fel blociau adeiladu neu ddeunydd i gynnal traciau rheilffordd.

Menter newydd gyffrous sy’n datblygu technoleg cemeg a phatrymu laser ‘smart’ newydd ar gyfer y Diwydiant Electroneg Brintiadwy yw SmartKem Ltd, sydd wedi’i leoli yn Optic Techmium yn Llanelwy. Ffurfiwyd SmartKem yn 2009 a’i nod allweddol yw ymateb i alw byd-eang am electroneg cost isel, pwysau isel, garw a hyblyg. Gweledigaeth eang y cwmni yw datblygu datrysiadau sydd â’u heiddo deallusol wedi’i warchod ac sy’n galluogi i Electroneg Brintiadwy gyflawni ei photensial marchnad llawn mewn cymwysiadau mor amrywiol ag arddangosiadau electronig tenau iawn, paneli solar ysgafn, clytiau croen electronig a phecynnu deallus.

Mae Academi Fyd-Eang Prifysgol Cymru wedi cynllunio POWIS yn benodol i ddod â’r sector breifat a graddedigion disglair o bedwar ban byd ynghyd ag arbenigedd academaidd o Gymru ac yn fyd-eang at ei gilydd.

Lansiwyd cynllun POWIS yn 2009 gan EUB Tywysog Cymru, ac fe’i cyllidir yn rhannol gan Gronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop, a buddsoddiad gan Brifysgol Cymru ei hun. Mae gan y cynllun gyllideb o £11.4M i annog cwmnïau o Gymru i ymgymryd â phrosiectau arloesi ymchwil a datblygu cydweithredol.

I gael rhagor o wybodaeth am yr Academi Fyd-Eang ebostiwch: academi.fyd-eang@cymru.ac.uk neu ewch i: www.academi.fyd-eang.org.uk/|

I gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk|

I gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu Prifysgol Cymru: t.barrettcymru.ac.uk|

 

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori