Wedi ei bostio ar 1 Ebrill 2010

Safle'r Academi Fyd-Eang yn adeilad y Technium, Abertawe
Ydych chi'n berchen ar fusnes arloesol yn Mlaenau'r Cymoedd? Wel dyma'ch cyfle chi i ddenu cydnabyddiaeth gyda gwahoddiad i fusnesau, gan gynnwys busnesau menter gymdeithasol, ym Mlaenau’r Cymoedd i ymgeisio am wobrau sy’n arddangos ac yn dathlu arloesedd busnes yn y rhanbarth.
Mae Gwobrau Arloesi Blaenau’r Cymoedd bellach yn eu pedwaredd flwyddyn ac yn cydnabod rhagoriaeth o ran arloesi busnes a menter, gan amlygu’r dalent fasnachol a busnes yn y rhanbarth.
Cynhelir seremoni ac arddangosfa busnes eleni, a drefnir gan Raglen Arloesi Blaenau’r Cymoedd, yng Nghanolfan Golff, Gwesty a Spa Bryn Meadows ar 24 Mehefin, gydag Arthur Davies, cyd-sylfaenydd Chwisgi Penderyn, yn siaradwr gwadd, a chyflwynydd BBC Wales, Jason Mohamed, yn cyflwyno.
Ceir pedwar categori, sef y Masnachwr Unigol Mwyaf Arloesol, y Busnes Mwyaf Arloesol yn cyflogi llai na 20, y Busnes Mwyaf Arloesol yn cyflogi dros 20, a’r Fenter Gymdeithasol Fwyaf Arloesol. Bydd pob enillydd yn derbyn gwobr ariannol a thlws. Bydd yr holl ymgeiswyr yn dod yn aelodau o Glwb Turning Heads, sef clwb busnes arbennig Rhaglen Arloesi Blaenau’r Cymoedd.
Mae’r Gwobrau ar agor i unrhyw fusnes yn rhanbarth Blaenau’r Cymoedd ac unrhyw fusnes ym mwrdeistrefi Blaenau Gwent, Caerffili, RCT, Merthyr Tudful a Thorfaen a all ddangos effaith sylweddol ar Flaenau’r Cymoedd neu gysylltiad â’r ardal.
Dywedodd Phil Burkhard, rheolwr rhaglen Raglen Arloesi Blaenau’r Cymoedd: “Dyma Wobrau sy’n anrhydeddu busnesau mwyaf arloesol y rhanbarth a all ddangos sut y mae creadigrwydd ac arloesi wedi cael effaith ar eu busnes, gweithlu, cwsmeriaid, cymunedau neu’r amgylchedd.
“Rydym ni wedi gweld tystiolaeth fod busnesau’n wirioneddol gofleidio arloesi ac yn ei ddefnyddio i greu llwyddiannau ac o ganlyniad yn codi eu proffil busnes yn y rhanbarth ac yn fyd-eang.”
Enillydd Gwobr Masnachwr Unigol Mwyaf Arloesol y llynedd oedd Shabby Chic Antiques o Ferthyr, sy’n ailgylchu hynafolion gyda gwedd ‘shabby chic’ Ffrengig ac yn eu gwerthu yn y DU yn ogystal ag yn UDA, Tsieina a Siapan.
Dywedodd perchennog Shabby Chic Antiques, Theresa Locke: “Ers ennill y wobr y llynedd rwyf i wedi agor siop newydd ym Merthyr ac wedi cael nifer o gyfleoedd newydd i arddangos fy musnes, megis ymddangos ar raglenni teledu ‘60 Minute Makeover’ a ‘DIY SOS’, and ac rwyf hyd yn oed wedi ymddangos yn Vogue!”
Noddir digwyddiad 2010 gan Academi Fyd-Eang Prifysgol Cymru a noddwyr y Gwobrau yw BT, HSBC, Capital Law, Siambr Fasnach De Cymru a FS4B.
Dywedodd Richard Turner, o Academi Fyd-Eang Prifysgol Cymru: “Unwaith eto rydym ni wrth ein bodd i fod yn brif noddwr y Gwobrau hyn. Nod Rhaglen Arloesi Blaenau’r Cymoedd fel ein prif fenter ni, Ysgoloriaethau Arloesi Tywysog Cymru, yw helpu busnesau yn y rhanbarth i gynyddu eu gallu i arloesi.
“Rwyf i’n annog unrhyw fusnes ym Mlaenau’r Cymoedd sydd wedi arloesi eu cynnyrch, gwasanaethau neu brosesau i gystadlu am y gwobrau hyn sy’n gynyddol arwyddocaol.”
Gellir ymgeisio am y Gwobrwyon am ddim ac yn rhwydd, drwy ymweld â www.hovip.org.uk a’r dyddiad cau yw hanner dydd, dydd Gwener 14 Mai 2010. Yn yr un modd, gall ymwelwyr gofrestru ar-lein ar gyfer y digwyddiad Gwobrau a Marchnad i ddathlu llwyddiant, derbyn ysbrydoliaeth, gwneud busnes a ffurfio cysylltiadau newydd.
DIWEDD
I gael rhagor o wybodaeth am y gwobrau cysyllter ag Eryl W. Jones, Equinox Communications ar: Ffôn: 029 2076 4100 Symudol: 07702 359495 Ebost: erylequinox-pr.co.uk|
I gael gwybodaeth am yr Academi Fyd-Eang ewch ar y wefan: www.globalacademy.org.uk|