Cyhoeddi Enillwyr Cystadleuaeth Fideo Fy Nghymru i
Mae’n bleser gennym gyhoeddi mai enillydd Cystadleuaeth Fy Nghymru i yw Iwan Pitts o Wynedd, myfyriwr cyfryngau trydedd flwyddyn ym Mhrifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan. Gwnaeth ei fideo dri munud o hyd argraff dda ar y beirniaid gyda’i naratif difyr, addysgiadol a gobeithiol, gan fynd â’r gwyliwr ar wib drwy ei fywyd hyd yma - o’i amser yn llenwi silffoedd yn Tesco, hyd at ei gyfnod presennol fel myfyriwr. I wobrwyo ei daith hunangofiannol, bydd Iwan yn derbyn gliniadur Toshiba newydd sbon a fydd gobeithio yn ei helpu drwy ei flwyddyn olaf a thu hwnt i hynny.
Yn ail agos mae Alvin Phee o Singapore, sydd bellach yn fyfyriwr ar gwrs dysgu o bell yn RDI (http://www.rdi.co.uk). Roedd ei ymgais ef yn cynnwys montage fideo oedd yn torri rhwng lluniau o dirwedd Singapore a chanolfan ddinesig Caerdydd. Fel y dywed Alvin wrth y gwylir, nid yw wedi gosod troed ar dir Cymru erioed, ond mae’n gwerthfawrogi ansawdd uchel yr addysg bellgyrhaeddol y mae’r Brifysgol yn ei darparu. Bydd yn derbyn iPod touch yn wobr.
Yn wreiddiol, nid oedd bwriad i roi trydedd wobr yn y gystadleuaeth, ond ar ôl ystyried ansawdd uchel yr ymgeiswyr, penderfynodd y Brifysgol y dylid dyfarnu gwobr hefyd i Bektemir Yusupov o Uzbekistan, sy’n raddedig o’r Athrofa Datblygu Rheolaeth yn Singapore (MDIS) - mewn cydweithrediad â Phrifysgol Cymru. Teyrnged gan Yusupov i Brifysgol Cymru yw’r fideo, yn ogystal ag i’r radd a helpodd iddo sicrhau swydd yn un o gwmnïau pwysicaf Uzbekistan - Banc Cenedlaethol Uzbekistan.
Cafodd yr holl fideos llwyddiannus eu ffrydio ar sgrin fawr i ddifyrru gwesteion yn y seremoni wobrwyo eleni yn Neuadd Dewi Sant, Caerdydd.
Roedd Cystadleuaeth Fideo Fy Nghymru i ar agor i fyfyrwyr oedd wedi’u cofrestru am ddyfarniad Prifysgol Cymru. Roedd gofyn i’r fideos, nad oedd i fod yn hirach na thri munud o hyd, ddangos yr hyn oedd bod yn fyfyriwr Prifysgol Cymru yn ei olygu i’r ymgeisydd a pham eu bod yn mwynhau bod yn rhan o gymuned Fy Nghymru i. Cafodd y fideos eu beirniadu ar sail eu menter a’u gwreiddioldeb.
/Diwedd
Am ragor o wybodaeth am Fy Nghymru i: http://www.wales.ac.uk/en/featuredcontent/articles/InformationArticles/MyWales-AnIntroduction.aspx|
Hefyd , gallwch ymweld â chymunedau Fy Nghymru i ar: Youtube: http://www.youtube.com/uniwales| a’n tudalen Facebook: http://www.facebook.com/universityofwales|
I gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk|
i gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysyllter â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu Prifysgol Cymru: t.barrettcymru.ac.uk|