Wedi ei bostio ar 5 Mai 2010
'Roedd Cynhadledd Fyd-Eang Sefydliad Milken 2010 unwaith eto yn llawn asbri, ysbrydoliaeth ac adloniant gydag ystod eang o siardwyr yn cynnwys Andre Agassi, Maria Shriver a Biz Stone yn cymryd rhan.
Gyda dros 3,000 o bobl yn ran o'r digwyddiad yn Los Angeles yr wythnos ddiwetha, roedd cynrychiolwyr o 60 o wledydd o dan yr un to. 'Roedd y Gynhadledd yn darparu cyfle iddynt ddod at ei gilydd, i rannu syniadau newydd ac i ddysgu mwy wrth gasgliad amrywiol o siaradwyr gwadd. 'Roedd y panelau trafod yn edrych ar amrywiaeth o bynciau o ddyfodol Eurozone i dyfiant yn Tseina, o ariannu i arloesedd.
Yn canolbwyntio ar arloesedd, cyflwynodd Is-Ganghellor Prifysgol Cymru, Marc Clement, ei araith i'r gynhadledd. Canolbwyntiodd Marc hefyd ar sut y gellid ddefnyddio technoleg ym myd addysg ar raddfa fyd-eang.
Yn Ffisegydd o fri, ymunodd Marc Clement â Phrifysgol Cymru fel Is-Ganghellor a Phrif Weithredwr yn 2007. Bu'n bennaeth Athrofa Arloesedd Prifysgol Abertawe yn y gorffennol a chyfarwyddwr gweithredol Athrofa Gwyddorau Bywyd y Brifysgol yn ogystal.
'Roedd Marc hefyd yn ran o banel arloesedd y gynhadledd gan edrych ar dyfiant y Wê a gweithgareddau digidol a sut gallwn ddefnyddio technolegau newydd mewn addysg. Gallwch ddod o hyd i gyflwyniad Marc a dysgu mwy am Athrofa Milken trwy ymweld â'r wefan: www.milkeninstitute.org/|
/Diwedd
Am fwy o wybodaeth am weithgareddau Prifysgol Cymru ewch i: www.wales.ac.uk/|