Yr Athro ymysg y Morladron
Nid meudwy yn byw bywyd cysgodol y tu ôl i’w sbectol yn ei swyddfa yw pob gwyddonydd. Mae Stig Jarle Hansen, o Norwy, sydd â gradd PhD o Brifysgol Cymru, bellach yn Athro ac yn ymchwilio i fôr-ladron yn Somalia - un o’r ardaloedd mwyaf peryglus a throseddgar yn y byd.
Mae môr-ladron o Somalia yn gweithredu yng Ngwlff Aden wedi bod yn ddraenen yn ystlys cwmnïau llongau rhyngwladol ers 1991, pan arweiniodd rhyfel cartref at ansefydlogrwydd, gwrthdaro ac anhrefn drwy’r wlad. Mae’r achosion cynyddol o herwgipio llwythau llongau tramor dros y tair blynedd diwethaf yn unig wedi costio dros $275 miliwn i gwmnïau llongau. Mae hefyd wedi achosi argyfyngau diplomataidd ac wedi amharu ar gludo cymorth bwyd hanfodol i wledydd y Trydydd Byd.
Mae deall y ffenomen a sut i’w atal yn ganolog i’r drafodaeth ryngwladol, ochr yn ochr ag eithafiaeth Islamaidd, y dirwasgiad economaidd a’r brwydro parhaus yn Afghanistan ac Irac. Eto i gyd mae’r byd yn dal i aros am ateb i’r anarchiaeth forol sydd wedi gwaethygu’n raddol ers 2008.
Mae Stig yn deall Somalia a’i môr-ladron yn dda. Ar ôl cwblhau gradd doethur mewn Cysylltiadau Rhyngwladol yn yr hyn oedd ar y pryd yn Brifysgol Cymru, Aberystwyth yn 2006, erbyn hyn mae’n rhannu ei amser yn gweithio fel Athro Cyswllt ym Mhrifysgol y Gwyddorau Bywyd yn Oslo a gwneud gwaith ymgynghori i NATO. Gellir priodoli ei lwyddiant fel ymchwilydd i’r agwedd anarferol y mae’n ei mabwysiadu er mwyn darganfod achosion o fôr-ladrad yn y weriniaeth drafferthus hon yn nwyrain Affrica. Dywed bod ei gryfder yn gorwedd yn ei ymchwil maes:
Rwyf i’n teithio i borthladdoedd pwysig y môr-ladron - yn bennaf Mogadishu, sy’n galluogi i mi adeiladu cyfeillgarwch lleol. Rwyf i’n siarad â phobl gyffredin Somalia, nid yr elit yn unig, sy’n rhoi dealltwriaeth unigryw i mi o’r sefyllfa ar lawr gwlad.
Gyda chyfradd frawychus o lofruddiaethau a thrais, heb sôn am ddisgwyliad oes o 48 o flynyddoedd ar gyfartaledd, mae Somalia y tu hwnt i’r gyrraedd y rhan fwyaf o’r byd. Fe’i disgrifiwyd gan Reporters Without Borders, sefydliad sy’n ymladd dros ryddid y wasg fel ‘gwlad beryclaf Affrica i newyddiadurwyr’. Mae’r cyfryngau yn Somalia ei hun yn dameidiog ac yn aml yn bartisan. Mae darlledwyr a newyddiadurwyr yn gweithredu mewn amgylchedd sy’n gwrthwynebu rhyddid mynegiant, ac sy’n aml yn beryglus. Yn gyffredinol, mae’r wladwriaeth yn cadw gafael tynn ar unrhyw fath o ddarlledu, sydd wedi arwain at dwll du o wybodaeth - un y mae Stig wedi treulio ei yrfa yn ceisio ei lenwi.
Rwyf i’n siarad â môr-ladron yn systematig’ esbonia Stig. ‘Rwyf i’n siarad â nifer o’r arweinwyr y wlad a rhwydwaith o ryw 35 o fôr-ladron a gallaf wneud hyn yn sgil fy mherthynas â hynafgwyr y llwyth sy’n fy ngwarchod.
Drwy weithio’n agos â Rhaglen Datblygu’r Cenhedloedd Unedig, gall Stig sicrhau fod adnoddau cymorth a datblygu yn cyrraedd y bobl sydd â’r angen mwyaf. Mae ei rôl yn hyn o beth wedi’i helpu i adeiladu ymddiriedaeth ymysg môr-ladron, milwyr, heddlu a threfnwyr, sy’n ei warchod ac yn rhoi gwybodaeth hanfodol iddo. Yna mae’n bwydo’r wybodaeth i asiantaethau cudd-wybodaeth aelod-wladwriaethau NATO.
Y peth gorau a ddywedwyd wrthyf i erioed oedd pan oeddwn i’n siarad â môr-leidr o’r enw Boya. Gofynnodd i mi: “sut gall dieithryn fel ti wybod cymaint?”. Mae’n fy synnu nad oes gan y mwyafrif o lywodraethau unrhyw gudd-wybodaeth y tu hwnt i elit Nairobi ac asiantaethau’r CU.
Rhywbeth difyr arall y mae ymchwil Stig wedi’i ddatgelu yw bod llawer o bobl Somalia yn mynd yn fôr-ladron i gynnal eu gwragedd niferus - gyda rhai â chymaint â 13! Cwyn y mae’n ei chlywed yn aml gan fôr-ladron yw bod eu rhwydweithiau teuluol yn cynyddu’n gyflym unwaith iddynt ddechrau ennill arian drwy herwgipio, gyda chefndryd dieithr a phell yn ymddangos wrth y drws, yn gofyn am gyfran o’r enillion.
Mae Stig hefyd yn awyddus i wrthod rhai o’r mythau sydd wedi tyfu o gylch y ffenomen: yn ôl adroddiadau’r cyfryngau, tuedd ddiweddar yw’r achosion o fôr-ladrad sy’n digwydd oddi ar arfordir Somalia. I’r gwrthwyneb, medd Stig - mae achosion o herwgipio yn gyffredin iawn yn y wlad erioed, er mai rhywbeth diweddar yw targedu treillongau estron. Yn aml mae ymchwil damcaniaethol i fôr-ladrad yn gorsymleiddio pethau.
Un o’r pethau y mae’n eu casáu yw gorddibyniaeth newyddiadurwyr ac academyddion ar ‘ymchwil Google’. Dywed nad yw eistedd mewn llyfrgell neu grwydro’r we o bellter diogel yn mynd i ddod o hyd i ateb i fygythiad mor ddifrifol a phwysig â môr-ladrad.
Pan ofynnir iddo am ateb i fôr-ladrad Somalia, ateb Stig yw y gall cyrchoedd llyngesol atal y môr-ladron am gyfnod, ond y mesur mwyaf effeithiol fyddai cryfhau’r awdurdodau rhanbarthol. Bydd presenoldeb milwrol gorllewinol yn gwaethygu’r sefyllfa; mae angen agwedd fwy adeiladol at ddatrys problemau’r wlad. Mae’n rhybuddio rhag meddwl bod rhaid sianelu pob cymorth drwy’r llywodraeth ym Mogadishu sy’n derbyn cefnogaeth y gorllewin.
Rheolaeth gyfyngedig dros lond llaw o gymdogaethau yn y ddinas yn unig sydd gan y llywodraeth ym Mogadishu, a gafael wan ar gyfraith a threfn yn ardal Puntland (yng ngogledd Somalia). Rhaid ymdrin ag ardaloedd eraill hefyd - mae’r rhain allan o reolaeth
Mae’r ardaloedd digyfraith a thlawd hyn y tu allan i Mogadishu yn dir ffrwythlon ar gyfer môr-ladron. Er bod modd dadlau bod y gweithgaredd yn chwistrellu cyfalaf gwerthfawr i ardal dlawd yn Affrica, mae rhywfaint o wrthwynebiad brodorol i’r arfer. Yn aml mae’r bobl hŷn a’r rhai crefyddol yn gweld bod môr-ladrad yn erbyn dysgeidiaeth Islam. Gwêl Stig y gwrthwynebiad ysbrydol hwn fel arwydd bach ond gobeithiol y bydd pethau yn gwella yn y pen draw, gyda’r wlad yn derbyn mwy o gefnogaeth i’w seilwaith yn hytrach na chefnogaeth arfog, sydd ond yn tanio fflamau gwrthryfel. Fel y dywed Stig:
Mae grymoedd y gorllewin yn hyfforddi ac yn arfogi milwyr Somaliaidd, heb sicrhau eu bod yn cael cefnogaeth gyllidol briodol wedyn. Wrth gwrs pan gaiff milwyr eu trin fel hyn maen nhw’n mynd i wrthryfela fel ysbeilwyr, neu ddychwelyd i werthu eu harfau gorllewinol. Mae’n gylch cythreulig sy’n parhau oherwydd consensws rhyngwladol byr yr olwg o’r hyn sy’n achosi problemau’r wlad’
Er nad oes ateb rhwydd i drafferthion Somalia, gelwir ar Stig yn aml i gynghori CNN, Al-Jazeera a’r BBC – roedd ganddo ei slot ei hun ar BBC Radio 4 yn 2006 o’r enw ‘Letters From Mogadishu’.
Yr unig gyngor y mae’n ei gynnig i fyfyrwyr sy’n dymuno astudio neu adrodd ar ardaloedd lle ceir gwrthdaro yw:
Mae astudio hanes gwyddor wleidyddol yn lle da i ddechrau. Ond mae’n rhaid i chi fynd allan o’r llyfrgell, cwrdd â phobl a siarad â nhw!
/Diwedd
Nodiadau i Olygyddion:
I gael rhagor o wybodaeth am Brifysgol Cymru ewch i: www.cymru.ac.uk
I gael gwybodaeth i’r wasg a’r cyfryngau, cysylltwch â Tom Barrett, Swyddog Cyfathrebu, Prifysgol Cymru: t.barrett@cymru.ac.uk