Thomas Stephens o Ferthyr Tudful

Wedi ei bostio ar 29 Hydref 2015
Dr Adam Coward, Dr Marion Löffler & Alan Vaughan Hughes

Dr Adam Coward, Dr Marion Löffler a Alan Vaughan Hughes

Ar 24 Hydref agorodd arddangosfa newydd Thomas Stephens, ysgolhaig o’r 19eg ganrif, yn Ystafell Summers Llyfrgell Genedlaethol Cymru. 

Trefnwyd yr arddangosfa Gohebydd, Hanesydd, Diwygiwr: Thomas Stephens o Ferthyr Tudful ar y cyd gan Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru (y Ganolfan) a Llyfrgell Genedlaethol Cymru (LlGC), ac roedd ei hagoriad yn rhan o gynhadledd ryngwladol a drefnwyd gan Dr Marion Löffler o’r Ganolfan.

Ers mis Tachwedd 2014, mae Dr Löffler wedi bod yn arwain prosiect ymchwil yn y Ganolfan sy’n cael ei ariannu gan Leverhulme o’r enw Trosglwyddo Gwybodaeth a Rhwydweithiau Cymdeithasol: Dysg Ewropeaidd a’r Chwyldro yn Ysgolheictod Cymru Oes Fictoria sy’n ymchwilio i fywyd, cyfnod a chysylltiadau Ewropeaidd yr hanesydd a’r diwygiwr cymdeithasol Thomas Stephens o Ferthyr Tudful. Y gynhadledd hon ac agoriad yr arddangosfa oedd uchafbwynt prosiect ymchwil Dr Löffler ac fe’i mynychwyd gan haneswyr lleol megis Michael Freeman, cyn guradur Amgueddfa Ceredigion, aelodau o’r cyhoedd ac ysgolheigion rhyngwladol o Hwngari, Yr Iseldiroedd, Yr Almaen, Iwerddon a’r Alban.

Daeth Thomas Stephens (1821–75) fferyllydd wrth ei alwedigaeth, yn un o ysgolheigion, diwygwyr cymdeithasol a beirniaid diwylliannol mwyaf arloesol Cymru yn ystod y 19eg ganrif.  Mae dros 500 o lythyrau a dderbyniwyd ganddo o bedwar ban byd, yn ogystal ag amryw o lawysgrifau ac erthyglau papur newydd ganddo yn cael eu cadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Roedd Stephens yn un o’r Cymry cyntaf i ddefnyddio’r dull beirniadol o drin ffynonellau hanesyddol a ddatblygwyd ym Mhrwsia, a’i gyfrol The Literature of the Kymry yn 1849 oedd yr astudiaeth wyddonol gyntaf o lenyddiaeth Cymru yn yr oesoedd canol. Roedd yn uchel ei barch gan ysgolheigion modern ledled Ewrop am ei archwiliad beirniadol o hanes Cymru a’i ffynonellau, a daeth yn ffigwr dadlennol i’r rhai oedd yn mynnu glynu at syniadau rhamantaidd am Gymreigrwydd.  Ymdrechodd Stephens trwy gydol ei oes i foderneiddio cymdeithas a diwylliant Cymru, gan helpu i sefydlu llyfrgell gyhoeddus, neuadd ddirwest a bwrdd iechyd ym Merthyr Tudful, ymgyrchu dros addysg ysgolion gwladol a beirniadu cystadlaethau gor-ramantaidd yr eisteddfod.  Mae pob un o’r meysydd gweithgarwch hyn yn cael eu cynnwys yn yr arddangosfa. 

Dyma oedd gan Dr Löffler, a welir yma gydag Alan Vaughan Hughes, Pennaeth Mynediad a Rhaglenni Cyhoeddus y Llyfrgell Genedlaethol, a chydweithiwr ar y prosiect Dr Adam Coward, Cymrawd Ymchwil yn y Ganolfan, i’w ddweud am yr arddangosfa:

“Rwyf wrth fy modd fod yr ymdrech gydweithredol hon rhwng Llyfrgell Genedlaethol Cymru a’r Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd i amlygu cyflawniadau Cymro o ardal ddiwydiannol de Cymru wedi arwain at ganlyniad mor arbennig ac atyniadol. Hoffwn ddiolch i’r curaduron Nia Wyn Dafydd a Mari-Elin Jones am y paneli testun a’r adluniau trawiadol yn yr arddangosfa.”

Nid yn unig mae’r arddangosfa’n cynnwys llythyrau gan ysgolheigion Ewropeaidd a Chymry oddi cartref, llawysgrifau a nodiadau Stephens, ond mae hefyd yn cynnwys gwrthrychau hynod o hardd fel y corn inc ifori a enillodd yn wobr mewn eisteddfod ym 1840, pan oedd ond yn 19 oed.

Gellir gweld yr arddangosfa yn Ystafell Summer Llyfrgell Genedlaethol Cymru tan yr wythnos gyntaf ym mis Rhagfyr 2015.

Yn gynnar yn 2016, fel rhan o gydweithrediad rhwng y Ganolfan, LlGC a Llyfrgelloedd Merthyr Tudful, bydd yr arddangosfa’n teithio i Lyfrgell Ganolog Merthyr Tudful, gan alluogi cyhoedd de Cymru a Merthyr Tudful i gael golwg agos ar fywyd a gwaith un o’i dinasyddion mawr.
Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori