Ailddarganfod penddelw marmor o ysgolhaig toreithiog o Ferthyr

Wedi ei bostio ar 17 Mawrth 2016
Thomas Stephens

Y penddelw o Thomas Stephens o Ferthyr Tydfil, Llun: Prifysgol Aberystwyth

Mae penddelw marmor o’r ysgolhaig, hanesydd a diwygwyr cymdeithasol o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ym Merthyr Tudful, Thomas Stephens (1821-1875), a fu ar goll ers y 1950au, wedi ei ailddarganfod mewn cwpwrdd dan-grisiau yn yr Hen Goleg ym Mhrifysgol Aberystwyth.

Adroddwyd yr hanes yn wreiddiol gan Brifysgol Aberystwyth yn gynt yr wythnos hon, a chredir fod y penddelw, gan y cerflunydd Cymreig enwog Joseph Edwards (1814-1882), wedi cyrraedd yr Hen Goleg gyda phapurau Thomas Stephens a roddwyd gan deulu ei weddw i Lyfrgell Genedlaethol Cymru ddechrau’r ugeinfed ganrif.

Pan symudodd y Llyfrgell Genedlaethol a’i harchifau i’w hadeilad newydd ddiwedd y 1930au, ymddengys i’r penddelw gael ei adael ar ôl.

Daeth Stephens, a oedd yn fferyllydd wrth ei alwedigaeth, ac i raddau helaeth wedi’i ddysgu ei hun, yn un o ysgolheigion, diwygwyr cymdeithasol a beirniaid diwylliannol mwyaf arloesol Cymru. Roedd yn ffigur pwysig ym Merthyr Tudful, ac yn un o sylfaenwyr y llyfrgell gyhoeddus yno. Ymgyrchodd dros Fwrdd Iechyd, bu’n flaenllaw yn y gwaith o adeiladu ei Neuadd Dirwest a bu’n cyflafareddu rhwng y gweithwyr a’r meistri dur.

Ar raddfa genedlaethol, gweithiodd i ailddyfeisio’r Eisteddfod fel sefydliad cenedlaethol, safoni orgraff y Gymraeg a datblygu addysg plant Cymru. Stephens oedd un o’r Cymry cyntaf i ddefnyddio dull beirniadol i drafod ffynonellau hanesyddol a ddatblygwyd ym Mhrwsia, a’i gyfrol yn 1849 The Literature of the Kymry oedd yr astudiaeth wyddonol gyntaf o lenyddiaeth ganoloesol Gymraeg. Roedd Stephens yn cael ei edmygu am ei archwiliad beirniadol o hanes Cymru a’i ffynonellau drwy Ewrop gan ysgolheigion modern.

Ar hyn o bryd Stephens yw testun prosiect ymchwil dwy flynedd a gyllidir gan Leverhulme yng Nghanolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd Prifysgol Cymru. Teitl y prosiect yw Trosglwyddo Gwybodaeth a Rhwydweithiau Cymdeithasol: Dysg Ewropeaidd a'r Chwyldro yn Ysgolheictod Cymru Oes Fictoria, ac mae’n edrych ar fywyd, oes a chysylltiadau Ewropeaidd Stephens a’i noddwyr. Mae’n cynnig dealltwriaeth ddifyr o’r modd y byddai gwybodaeth yn cael ei chyfnewid rhwng gwledydd fel yr Almaen, Cymru ac Iwerddon, yn aml drwy ohebiaeth, gan felly ganiatáu i gysyniadau a dulliau ymchwil modern gyrraedd Cymru.

Roedd arweinydd y prosiect Dr Marion Löffler yn amlwg wrth ei bodd â’r darganfyddiad pan gysylltodd Prifysgol Aberystwyth â hi gan ddweud:

“Mae’r penddelw yn rhan bwysig o hanes deallusol a chelf Gymreig. Mae Thomas Stephens yn un o'r enghreifftiau gorau o entrepreneur o Gymro ar ei liwt ei hun o gyfnod Victoria ac mae hefyd yn cynrychioli’r traddodiad academaidd Ewropeaidd amatur ar ei orau. Bydd y ffaith fod y penddelw hwn ohono gan ŵr adnabyddus arall o Ferthyr, Joseph Edwards, wedi’i ddarganfod, yn gwneud i bobl Merthyr Tudful deimlo’n falch iawn.”

Mae hanes comisiynu’r penddelw yn adrodd cyfrolau, fel yr eglurodd Dr Löffler:

“Pan ymddeolodd Stephens o'i swydd fel ysgrifennydd Llyfrgell Merthyr ar sail afiechyd difrifol yn 1862, gwnaethpwyd casgliad, ond gwrthododd yr arian. Yna penderfynodd y pwyllgor gomisiynu Joseph Edwards i greu gwaith celf coffaol. Mae llythyrau rhwng y ddau’n dangos iddynt geisio cael y gorau ar ei gilydd o ran caredigrwydd, drwy wrthod arian ac ad-dalu gweision.”

Mae dros 500 o lythyrau a anfonwyd i Stephens o bedwar ban byd, yn ogystal ag amryw o lawysgrifau ac erthyglau papur newydd ganddo yn cael eu cadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Mae’r Prosiect wedi’u trawsgrifio a chynhaliodd arddangosfa ar y cyd yn y Llyfrgell Genedlaethol ddiwedd 2015.

Dan y teitl Hanesydd, Diwygiwr: Thomas Stephens o Ferthyr Tudful roedd yr arddangosfa’n cynnwys nid yn unig lythyrau gan ysgolheigion Ewropeaidd a Chymry oddi cartref, llawysgrifau a nodiadau Stephens, ond hefyd gwrthrychau hynod o hardd fel y corn inc ifori a enillodd yn wobr mewn eisteddfod ym 1840, pan oedd ond yn 19 oed.

Rhagwelir fel rhan o gydweithrediad rhwng y Ganolfan, Llyfrgell Genedlaethol Cymru a Llyfrgelloedd Merthyr Tudful, y bydd yr arddangosfa’n teithio i Lyfrgell Ganolog Merthyr Tudful yn 2016, gan alluogi cyhoedd de Cymru a Merthyr Tudful i gael golwg agos ar fywyd a gwaith un o’i dinasyddion mawr.

I ddarllen yr erthygl wreiddiol ar wefan Prifysgol Aberystwyth cliciwch yma.

Sylwadau

Chwilio newyddion

Dewis Categori